(1)At ddibenion y Mesur hwn, mae pob un o'r canlynol yn “awdurdod Cymreig”—
(a)Gweinidogion Cymru;
(b)awdurdod lleol;
[F1(ba)cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir drwy reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1);]
(c)Bwrdd Iechyd Lleol;
(d)Awdurdod tân ac achub yng Nghymru, sef awdurdod yng Nghymru a gyfansoddwyd drwy gynllun o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21) neu gynllun y mae adran 4 o'r Ddeddf honno yn gymwys iddo;
(e)Awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru;
(f)[F2Corff Adnoddau Naturiol Cymru];
(g)[F3y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil];
(h)Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru;
(i)Amgueddfa Genedlaethol Cymru;
(j)Cyngor Celfyddydau Cymru;
(k)Llyfrgell Genedlaethol Cymru;
(l)Cyngor Chwaraeon Cymru.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn —
(a)diwygio neu hepgor unrhyw baragraff yn is-adran (1), ac eithrio paragraff (a) a (b);
(b)ychwanegu paragraffau at yr is-adran honno;
(c)diwygio neu hepgor y cyfryw baragraffau ychwanegol;
(d)gwneud unrhyw ddiwygiadau i adran 5 sy'n angenrheidiol neu'n hwylus o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan baragraffau (a) i (c).
(3)Cyn gwneud gorchymyn o dan is-adran (2) i gynnwys person yn is-adran (1) neu i symud person o is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r person hwnnw.
(4)Rhaid i Weinidogion Cymru beidio ag arfer eu pŵer o dan is-adran (2) mewn modd a fyddai'n cynnwys unrhyw un neu unrhyw rai o'r canlynol o fewn is-adran (1)—
(a)person sydd heb swyddogaethau o natur gyhoeddus;
(b)person nad yw ei brif swyddogaethau'n ymwneud â maes neu feysydd yn Rhan 1 o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32);
(c)tribiwnlys.
(5)Os bydd Gweinidogion Cymru yn arfer eu pŵer o dan is-adran (2) mewn modd a fyddai'n cynnwys person o fewn is-adran (1) sydd â swyddogaethau o natur gyhoeddus ac o natur breifat, rhaid iddynt gynnwys y person hwnnw mewn perthynas â'r swyddogaethau hynny sydd ganddo sydd o natur gyhoeddus yn unig.
Diwygiadau Testunol
F1A. 6(1)(ba) wedi ei fewnosod (3.12.2021) gan Rheoliadau Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Diwygio’r Rhestr o Awdurdodau Cymreig) 2021 (O.S. 2021/1361), rhlau. 1(2), 2
F2Geiriau yn a. 6(1)(f) wedi eu hamnewid (1.4.2013) gan Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013 (O.S. 2013/755), ergl. 1(2), Atod. 3 para. 1 (ynghyd ag Atod. 7)
F3Geiriau yn a. 6(1)(g) wedi eu hamnewid (1.8.2024) gan Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (asc 1), a. 148(2), Atod. 4 para. 27 (ynghyd ag a. 19); O.S. 2024/806, ergl. 2(k)(xv) (ynghyd ag ergl. 28)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 6 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)
I2A. 6 mewn grym ar 10.1.2011 gan O.S. 2010/2994, ergl. 2(d)