RHAN 3LL+CTIMAU INTEGREDIG CYMORTH I DEULUOEDD

ByrddauLL+C

62Swyddogaethau byrddau integredig cymorth i deuluoeddLL+C

(1)Amcanion y byrddau integredig cymorth i deuluoedd yw—

(a)sicrhau effeithiolrwydd yr hyn a wneir gan y timau integredig cymorth i deuluoedd y maent yn ymwneud â hwy;

(b)hybu arferion da gan yr awdurdodau lleol a'r Byrddau Iechyd Lleol sy'n cymryd rhan yn y timau o ran y swyddogaethau a bennir i'r timau;

(c)sicrhau bod gan fyrddau integredig cymorth i deuluoedd adnoddau digonol i gyflawni eu swyddogaethau;

(d)sicrhau bod yr awdurdodau lleol a'r Byrddau Iechyd Lleol sy'n cymryd rhan yn y timau integredig cymorth i deuluoedd yn cydweithredu â'r timau integredig cymorth i deuluoedd wrth iddynt gyflawni swyddogaethau'r timau.

(2)Mae bwrdd integredig cymorth i deuluoedd i gael y cyfryw swyddogaethau o ran ei amcanion ag a ragnodir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 62 mewn grym ar 1.9.2010 at ddibenion penodedig gan O.S. 2010/1699, ergl. 2, Atod. 1

I3A. 62(1) mewn grym ar 28.2.2012 at ddibenion penodedig gan O.S. 2012/191, ergl. 3, Atod. 2

I4A. 62(1) mewn grym ar 31.3.2012 at ddibenion penodedig gan O.S. 2012/191, ergl. 4, Atod. 2

I5A. 62(1) mewn grym ar 1.2.2013 at ddibenion penodedig gan O.S. 2013/18, ergl. 2(1)(2)(f)

I6A. 62(1) mewn grym ar 31.7.2013 at ddibenion penodedig gan O.S. 2013/1830, ergl. 3(1)(2)(f)

I7A. 62(1) mewn grym ar 28.2.2014 at ddibenion penodedig gan O.S. 2014/373, ergl. 2(1)(2)(f)

I8A. 62(2) mewn grym ar 27.1.2012 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2012/191, ergl. 2, Atod. 1