RHAN 4AMRYWIOL A CHYFFREDINOL
Anghenion plant sy'n deillio o anghenion gofal cymunedol ac anghenion iechyd eu rhieni
68Anghenion plant sy'n deillio o gyflyrau iechyd eu rhieni
1
Mae'r adran hon yn gymwys ar gyfer darparu gwasanaethau iechyd penodedig i riant plentyn os darperir y gwasanaethau neu os sicrheir hwy gan gorff Gwasanaeth Iechyd Gwladol penodedig.
2
Rhaid i gorff Gwasanaeth Iechyd Gwladol penodedig wneud y trefniadau hynny y mae'n barnu sy'n gweddu—
a
er mwyn ystyried effaith unrhyw gyflwr iechyd gan y rhiant ar anghenion y plentyn ac a fyddai'r effaith honno'n galw am ddarparu gwasanaethau gan awdurdod lleol wrth iddo arfer ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol;
b
er mwyn atgyfeirio achosion priodol i'r awdurdod lleol perthnasol, yn ddarostyngedig i unrhyw dyletswydd sy'n ddyledus gan y corff Gwasanaeth Iechyd Gwladol i'r plentyn neu i'r rhiant ynghylch datgelu gwybodaeth sy'n ymwneud â'r plentyn neu'r rhiant.
3
Yn yr adran hon—
ystyr “corff Gwasanaeth Iechyd Gwladol” (“National Health Service body”) yw unrhyw un o'r canlynol—
- a
Bwrdd Iechyd Lleol;
- b
ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol;
- a
ystyr “iechyd” (“health”) yw iechyd corfforol neu iechyd meddwl;
ystyr “penodedig” (“specified”) yw corff neu wasanaeth sy'n benodedig drwy orchymyn Gweinidogion Cymru.