Rhagolygol
71Dehongli'n GyffredinolLL+C
Yn y Mesur hwn—
ystyr “awdurdod Cymreig” (“Welsh authority”) yw person a bennir yn adran 6(1);
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol” (“Local Health Board”) yw Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42);
mae “gofal dydd i blant” (“day care for children”) (a “gofal dydd” (“day care”)) i'w ddehongli yn unol ag adran 19 at ddibenion Rhan 2;
mae “gwarchod plant” (“child minding”) i'w ddehongli yn unol ag adran 19 at ddibenion Rhan 2;
mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw le ac unrhyw gerbyd;
ystyr “plentyn” (“child”) yw person nad yw wedi cyrraedd 18 oed;
ystyr “rhagnodi” (“prescribed”) yw rhagnodi mewn rheoliadau;
ystyr “rheoliadau” (“regulations”) yw rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 71 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)