RHAN 4AMRYWIOL A CHYFFREDINOL
Cyffredinol
I174Gorchmynion a rheoliadau
1
Mae unrhyw bŵer gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn arferadwy drwy offeryn statudol.
2
Mae unrhyw bŵer gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn cynnwys pŵer—
a
i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer gwahanol achosion neu wahanol ddosbarthau o achos neu wahanol ardaloedd neu wahanol ddibenion;
b
i wneud darpariaeth yn gyffredinol neu yn ddarostyngedig i esemptiadau neu eithriadau penodol neu mewn perthynas ag achosion penodol neu ddosbarthau o achos yn unig;
c
i wneud y cyfryw ddarpariaeth gysylltiedig, darpariaeth atodol, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed ag y mae Gweinidogion Cymru yn barnu ei bod yn addas.
3
Mae unrhyw offeryn statudol sy'n cynnwys rheoliadau a wneir o dan y Mesur hwn yn ddarostyngedig i'w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
4
Nid yw is-adran (3) yn gymwys i orchmynion y mae is-adran (5) yn gymwys iddynt.
5
Ni cheir gwneud offeryn statudol sy'n cynnwys rheoliadau o dan adran 2(5) neu orchymyn o dan adran 1(8), 6(2) neu 19(4) oni chafodd drafft o'r offeryn ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.