Search Legislation

Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 74

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 03/12/2021.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, Adran 74. Help about Changes to Legislation

74Gorchmynion a rheoliadauLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae unrhyw bŵer gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(2)Mae unrhyw bŵer gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn cynnwys pŵer—

(a)i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer gwahanol achosion neu wahanol ddosbarthau o achos neu wahanol ardaloedd neu wahanol ddibenion;

(b)i wneud darpariaeth yn gyffredinol neu yn ddarostyngedig i esemptiadau neu eithriadau penodol neu mewn perthynas ag achosion penodol neu ddosbarthau o achos yn unig;

(c)i wneud y cyfryw ddarpariaeth gysylltiedig, darpariaeth atodol, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed ag y mae Gweinidogion Cymru yn barnu ei bod yn addas.

(3)Mae unrhyw offeryn statudol sy'n cynnwys rheoliadau a wneir o dan y Mesur hwn yn ddarostyngedig i'w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(4)Nid yw is-adran (3) yn gymwys i orchmynion y mae is-adran (5) yn gymwys iddynt.

(5)Ni cheir gwneud offeryn statudol sy'n cynnwys rheoliadau o dan adran 2(5) neu orchymyn o dan adran 1(8), 6(2) neu 19(4) oni chafodd drafft o'r offeryn ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 74 mewn grym ar 10.4.2010, gweler a. 75(1)

Back to top

Options/Help