3Personau a gwasanaethau na chaniateir gosod ffioedd ynglŷn â hwy

1

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth sy'n pennu categorïau o berson, gwasanaeth y caniateir codi ffioedd amdano neu gyfuniadau o wasanaethau y caniateir codi ffioedd amdanynt (neu gategorïau o berson o ran gwasanaeth neu gyfuniadau o wasanaethau penodol) y mae'n rhaid peidio â gosod ffi ynglŷn ag ef neu hwy o dan adran 1.

2

Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud yn y rheoliadau yn cynnwys darpariaeth (ond nid yw'n gyfyngedig i hynny)—

a

sy'n pennu categorïau o berson drwy gyfeirio at hawl y person hwnnw neu berson arall i gael neu dderbyn taliadau penodedig, cyfleusterau, gwasanaethau neu fuddiannau mewn da;

b

sy'n pennu categorïau o berson drwy gyfeirio at eu hoedran neu eu hanghenion;

c

sy'n pennu categorïau o wasanaeth neu gyfuniadau o wasanaethau drwy gyfeirio at y cyfnod o amser pan ddarperir ef neu hwy.

3

Yn unol â hynny, nid yw adrannau 4 i 12 yn gymwys i—

a

gwasanaethau neu gyfuniadau o wasanaethau a bennir mewn rheoliadau o dan is-adran (1), neu

b

gwasanaethau a dderbynnir gan bersonau a bennir felly.