Search Legislation

Mesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010

Statws

This is the original version (as it was originally enacted).

1Ystyr “y diwydiant cig coch”

Explanatory NotesShow EN

(1)Yn y Mesur hwn, ystyr “y diwydiant cig coch” yw—

(a)gweithgareddau sy'n rhan o fridio, cadw, prosesu, marchnata a dosbarthu unrhyw rai o'r anifeiliaid canlynol—

(i)gwartheg,

(ii)defaid, neu

(iii)moch; a

(b)gweithgareddau sy'n rhan o gynhyrchu, prosesu, marchnata, gweithgynhyrchu a dosbarthu cynhyrchion sy'n dod o'r anifeiliaid hynny i unrhyw raddau helaeth (ar wahân i laeth a chynhyrchion llaeth, gwlân cnu a chrwyn); a

(c)lladd-dai, arwerthiannau a marchnadoedd sy'n cael eu defnyddio'n llwyr neu'n rhannol ar gyfer gweithgareddau sy'n dod o fewn paragraffau (a) neu (b).

(2)Yn y Mesur hwn—

  • ystyr “sector defaid” (“sheep sector”) yw'r diwydiant cig coch i'r graddau y mae'n ymwneud â defaid;

  • ystyr “sector gwartheg” (“cattle sector”) yw'r diwydiant cig coch i'r graddau y mae'n ymwneud â gwartheg;

  • ystyr “sector moch” (“pig sector”) yw'r diwydiant cig coch i'r graddau y mae'n ymwneud â moch.

(3)Caniateir i'r pwerau sydd wedi eu rhoi i Weinidogion Cymru gan y Mesur hwn gael eu harfer—

(a)mewn perthynas â'r diwydiant cig coch yn ei gyfanrwydd, neu

(b)mewn perthynas â rhai sectorau o'r diwydiant yn unig;

a chaniateir iddynt gael eu harfer mewn ffordd wahanol ar gyfer gwahanol sectorau o'r diwydiant.

(4)Mae unrhyw gyfeiriad yn y Mesur hwn at anifeiliaid yn cynnwys (lle mae'r cyd-destun yn galw am hynny) cyfeiriad at anifeiliaid meirw.

2Amcanion

Explanatory NotesShow EN

At ddibenion y Mesur hwn yr amcanion yw—

(a)cynyddu effeithlonrwydd neu gynhyrchiant yn y diwydiant cig coch;

(b)gwella marchnata yn y diwydiant;

(c)gwella neu ddatblygu gwasanaethau y mae'r diwydiant yn eu darparu i'r gymuned neu y gallai eu darparu iddi; a

(d)gwella'r ffyrdd y mae'r diwydiant yn cyfrannu at ddatblygu cynaliadwy drwyddynt.

3Swyddogaethau

Explanatory NotesShow EN

(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw beth y maent yn ystyried ei fod yn briodol er mwyn hybu'r amcanion.

(2)At ddibenion hybu'r amcanion, caiff Gweinidogion Cymru, ymysg pethau eraill,—

(a)arfer unrhyw un neu fwy o'r swyddogaethau sydd wedi eu rhestru yn Atodlen 1 mewn perthynas â'r diwydiant cig coch, a

(b)sefydlu cronfa wrth gefn.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, ddiwygio Atodlen 1 drwy—

(a)diwygio neu hepgor darpariaethau;

(b)ychwanegu darpariaethau; neu

(c)diwygio neu hepgor unrhyw ddarpariaethau sydd wedi eu hychwanegu.

4Gosod ardoll: dynodi personau sy'n atebol

Explanatory NotesShow EN

(1)Caiff Gweinidogion Cymru osod ardoll neu ardollau yn unol â'r adran hon er mwyn cwrdd â chostau a dynnwyd neu sydd i'w tynnu wrth—

(a)hybu unrhyw un neu fwy o'r amcanion;

(b)arfer swyddogaethau eraill sy'n berthnasol i'r diwydiant cig coch; ac

(c)darparu fel arall wasanaethau sy'n berthnasol i'r diwydiant cig coch.

(2)Ni cheir defnyddio ardoll sydd wedi ei thalu gan bersonau mewn perthynas â gweithgareddau yn y sector gwartheg, y sector defaid neu'r sector moch at ddibenion cwrdd â chostau a dynnwyd neu sydd i'w tynnu yn benodol mewn perthynas â sector arall.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru osod ardoll—

(a)ar gigyddwyr os (a dim ond os) yw cigyddwyr wedi eu dynodi, drwy orchymyn gan Weinidogion Cymru, yn rhai sy'n atebol i dalu ardoll o dan y Mesur hwn; a

(b)ar allforwyr os (a dim ond os) yw allforwyr wedi eu dynodi, drwy orchymyn gan Weinidogion Cymru, yn rhai sy'n atebol i dalu ardoll o dan y Mesur hwn.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru osod ardoll ar bersonau sy'n cyflawni gweithgaredd cynradd os (a dim ond os) yw'r gweithgaredd cynradd hwnnw wedi ei ddynodi, drwy orchymyn gan Weinidogion Cymru, yn weithgaredd sy'n agored i ardoll o dan y Mesur hwn.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru osod ardoll ar bersonau sy'n cyflawni gweithgaredd eilaidd os (a dim ond os) yw'r gweithgaredd eilaidd hwnnw wedi ei ddynodi, drwy orchymyn gan Weinidogion Cymru, yn weithgaredd sy'n agored i ardoll o dan y Mesur hwn.

(6)Yn yr adran hon—

  • ystyr “gweithgaredd cynradd” (“primary activity”) yw bridio, cadw, prosesu, marchnata neu ddosbarthu gwartheg, defaid neu foch (ond nid yw'n cynnwys cigydda neu allforio gwartheg, defaid neu foch);

  • ystyr “gweithgaredd eilaidd” (“secondary activity”) yw gweithgaredd—

    (a)

    sy'n cael ei gyflawni mewn cysylltiad â'r diwydiant cig coch;

    (b)

    nad yw'n gigydda nac yn allforio gwartheg, defaid neu foch; ac

    (c)

    nad yw'n weithgaredd cynradd.

5Yr ardollau sydd i'w gosod ar gigyddwyr neu allforwyr — cyfrifo'r ardoll a'i thalu

Explanatory NotesShow EN

(1)Cyfrifir ardoll sy'n cael ei gosod ar gigyddwyr neu allforwyr am unrhyw gyfnod drwy gyfeirio at nifer y gwartheg, defaid neu foch y gellir codi ardoll amdanynt.

(2)Yn Atodlen 2—

(a)mae Rhan 1 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch sut y mae'n rhaid i ardollau gael eu cyfrifo, a

(b)mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch y dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid talu'r ardoll.

(3)O ran ardollau sydd i'w gosod ar gigyddwyr neu allforwyr, caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau am weithdrefnau sy'n ymwneud â—

(a)gosod ardollau (gan gynnwys hysbysu personau sy'n atebol i dalu ardoll o'r swm sy'n ddyledus ganddynt), a

(b)talu a chasglu ardollau.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, ddiwygio Atodlen 2 drwy—

(a)diwygio neu hepgor darpariaethau;

(b)ychwanegu darpariaethau; neu

(c)diwygio neu hepgor unrhyw ddarpariaethau sydd wedi eu hychwanegu.

(5)Yn y Mesur hwn ystyr “gwartheg, defaid neu foch y gellir codi ardoll amdanynt” (“chargeable cattle, sheep or pigs”), o ran unrhyw gyfnod y mae ardoll wedi ei gosod ar ei gyfer—

(a)mewn perthynas â chigyddwr, yw gwartheg, defaid neu foch a gigyddir gan y cigyddwr yn y cyfnod hwnnw; a

(b)mewn perthynas ag allforiwr, yw gwartheg, defaid neu foch a allforir gan yr allforiwr yn y cyfnod hwnnw.

6Pŵer i wneud darpariaeth ynglŷn ag ardollau sydd i'w gosod mewn perthynas â phersonau sy'n cyflawni gweithgaredd cynradd dynodedig neu weithgaredd eilaidd dynodedig

Explanatory NotesShow EN

(1)Cyfrifir ardoll sy'n cael ei gosod ar bersonau sy'n cyflawni gweithgaredd cynradd dynodedig neu weithgaredd eilaidd dynodedig am unrhyw gyfnod drwy gyfeirio at nifer y gwartheg, defaid neu foch y gellir codi ardoll amdanynt.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, wneud darpariaeth bellach ynglŷn ag ardollau sydd i'w gosod ar bersonau sy'n cyflawni gweithgaredd cynradd dynodedig neu weithgaredd eilaidd dynodedig, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i hynny) darpariaeth ynglŷn â—

(a)cyfraddau ac elfennau ardoll, a sut y mae ardollau i gael eu cyfrifo;

(b)sut y mae ardollau i gael eu dal a'u talu;

(c)tramgwyddau am beidio â chydymffurfio;

(d)eithriadau rhag talu ardoll mewn amgylchiadau penodol;

(e)gweithdrefnau sy'n ymwneud â gosod (gan gynnwys hysbysu personau sy'n atebol i dalu ardoll o'r swm sy'n ddyledus ganddynt) a thalu neu gasglu ardollau.

(3)Caiff gorchymyn o dan is-adran (2) wneud unrhyw ddiwygiadau i'r Mesur hwn sy'n ymddangos i Weinidogion Cymru yn angenrheidiol neu'n hwylus mewn cysylltiad ag unrhyw ddarpariaethau a wneir o dan is-adran (2).

(4)Yn y Mesur hwn ystyr “gwartheg, defaid neu foch y gellir codi ardoll amdanynt” (“chargeable cattle, sheep or pigs”), mewn perthynas â pherson sy'n cyflawni gweithgaredd cynradd dynodedig neu weithgaredd eilaidd dynodedig ac am unrhyw gyfnod y mae ardoll yn cael ei gosod ar ei gyfer, yw gwartheg, defaid neu foch y mae'r gweithgaredd hwnnw'n cael ei gyflawni mewn perthynas â hwy yn y cyfnod hwnnw.

7Dirprwyo ac is-gwmnïau

Explanatory NotesShow EN

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, i unrhyw raddau ac yn ddarostyngedig i unrhyw amodau ag y gwelant yn dda, ddirprwyo unrhyw un neu fwy o'u swyddogaethau o dan y Mesur hwn (nad ydynt yn swyddogaethau sydd wedi eu heithrio) i unrhyw berson.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru gaffael neu sefydlu is-gwmnïau i wneud unrhyw un neu fwy o'u dyletswyddau o dan y Mesur hwn (nad ydynt yn swyddogaethau sydd wedi eu heithrio).

(3)Mae unrhyw swyddogaeth sy'n ymwneud â'r canlynol yn swyddogaeth sydd wedi ei heithrio—

(a)gwneud rheoliadau neu orchmynion;

(b)rhoi cyfarwyddiadau.

(4)Caniateir i ddirprwyad o dan is-adran (1) gael ei amrywio neu ei ddirymu ar unrhyw adeg.

(5)Ni fydd unrhyw gytundeb neu drefniant o dan yr adran hon a wneir gan Weinidogion Cymru i ddirprwyo swyddogaeth, neu i drefnu bod is-gwmni yn cyflawni swyddogaeth, yn atal Gweinidogion Cymru rhag arfer y swyddogaeth os ydynt yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu'n hwylus iddynt wneud hynny.

8Datganiadau niferoedd ac amcangyfrifon

Explanatory NotesShow EN

(1)Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddiadau yn ei gwneud yn ofynnol i bersonau sy'n atebol i dalu ardoll mewn perthynas ag unrhyw gyfnod gyflwyno datganiad ynghylch y cyfnod hwnnw.

(2)Rhaid i'r datganiad gynnwys—

(a)nifer y gwartheg, defaid neu foch y gellir codi ardoll amdanynt am y cyfnod y mae'r datganiad yn ymwneud ag ef, a

(b)unrhyw fanylion eraill a bennir gan Weinidogion Cymru.

(3)Rhaid i'r datganiad gael ei gyflwyno erbyn y dyddiad, ac yn y modd a'r ffurf, a bennir mewn cyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru.

(4)Os bydd unrhyw berson sy'n atebol i gyflwyno datganiad—

(a)yn methu â chyflwyno'r datganiad erbyn y dyddiad a bennir,

(b)yn methu â chynnwys amcangyfrif yn y datganiad o nifer y gwartheg, defaid neu foch y gellir codi ardoll amdanynt, neu

(c)yn cynnwys amcangyfrif yn y datganiad sydd, ym marn Gweinidogion Cymru, yn afresymol o isel,

caiff Gweinidogion Cymru amcangyfrif nifer yr anifeiliaid a ddylai fod wedi ei nodi yn y datganiad.

(5)Os bydd Gweinidogion Cymru yn amcangyfrif nifer yr anifeiliaid yn unol ag is-adran (4), rhaid iddynt hysbysu'r person sy'n atebol i dalu'r ardoll yn ysgrifenedig o'r amcangyfrif hwnnw.

(6)Wedi iddo gael ei hysbysu o'r amcangyfrif, os bydd y person sy'n atebol i dalu'r ardoll yn methu â chyflwyno datganiad yn cynnwys amcangyfrif o fewn 28 niwrnod o dderbyn yr hysbysiad, rhaid i'r person hwnnw dalu ardoll ar nifer yr anifeiliaid a amcangyfrifwyd.

(7)Caiff Gweinidogion Cymru bennu bod cyfradd uwch o ardoll yn daladwy pan fo nifer yr anifeiliaid wedi ei amcangyfrif ganddynt hwy o dan yr adran hon, ond rhaid i'r gyfradd honno beidio â bod yn uwch nag unrhyw uchafswm ar gyfradd ardoll a ddarperir o dan y Mesur hwn.

(8)Mae person sy'n methu, heb esgus rhesymol, â chyflwyno datganiad yn unol â gofynion unrhyw gyfarwyddyd yn euog o dramgwydd sy'n dwyn cosb, ar gollfarn ddiannod, o ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

(9)Mae person sy'n darparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol mewn perthynas ag unrhyw ofynion o dan y Mesur hwn yn euog o dramgwydd sy'n dwyn cosb, ar gollfarn ddiannod, o ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

9Darparu gwybodaeth

Explanatory NotesShow EN

(1)Rhaid i bersonau sy'n atebol i dalu ardoll o dan y Mesur hwn—

(a)cadw cofnodion digonol i alluogi Gweinidogion Cymru ganfod faint o ardoll sy'n ddyledus; a

(b)dangos y cofnodion hynny i un o swyddogion Gweinidogion Cymru os gofynnir iddynt wneud hynny.

(2)Mae person sy'n methu a chydymffurfio â gofynion yr adran hon yn euog o dramgwydd sy'n agored, ar gollfarn ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

10Arolygu

Explanatory NotesShow EN

Caiff Gweinidogion Cymru benodi person (y cyfeirir ato yn y Mesur hwn fel “person penodedig”) i ganfod—

(a)a yw'r wybodaeth sydd wedi ei darparu mewn unrhyw ddatganiad yn gywir;

(b)a yw nifer yr anifeiliaid y mae'r ardoll wedi'i seilio arno yn gywir;

(c)a yw'r ardoll sy'n ddyledus o dan y Mesur hwn wedi ei thalu; a

(d)a oes tramgwydd o dan y Mesur hwn yn cael neu wedi cael ei gyflawni.

11Pwerau mynediad

Explanatory NotesShow EN

(1)Caiff ynad heddwch, os yw wedi ei fodloni ar gais person penodedig bod gofynion is-adrannau (2) a (3) wedi eu hateb, ddyroddi gwarant yn awdurdodi'r person hwnnw—

(a)i fynd ar dir neu fangre (gan ddefnyddio grym rhesymol os yw'n angenrheidiol), a

(b)i archwilio'r tir hwnnw neu'r fangre honno.

(2)Y gofyniad cyntaf yw bod sail resymol dros gredu bod cael mynediad i'r tir neu i'r fangre yn angenrheidiol er mwyn canfod—

(a)a yw'r wybodaeth sydd wedi ei darparu mewn unrhyw ddatganiad yn gywir,

(b)a yw nifer yr anifeiliaid y mae unrhyw ardoll wedi'i seilio arno yn gywir,

(c)a yw'r ardoll sy'n ddyledus o dan y Mesur hwn wedi ei thalu, neu

(d)a oes tramgwydd o dan y Mesur hwn yn cael neu wedi cael ei gyflawni.

(3)Yr ail ofyniad yw—

(a)bod mynediad i'r tir neu i'r fangre wedi ei geisio a'i fod wedi ei wrthod neu nad yw wedi bod yn bosibl, neu

(b)pe bai mynediad i'r tir neu'r fangre (heb warant) yn cael ei geisio, y byddai unrhyw wybodaeth, dogfen neu eitem arall yn cael ei chymryd oddi yno, y byddid yn ymyrryd â hi, neu y byddai'n cael ei chuddio neu ei dinistrio.

(4)Mae'r hawl sydd wedi ei rhoi gan warant o dan yr adran hon yn cynnwys pŵer i—

(a)mynd i mewn i fangre sy'n cael ei defnyddio fel tŷ annedd yn unig os oes gan y person penodedig achos rhesymol dros gredu bod y fangre—

(i)wedi ei meddiannu gan berson sy'n atebol i dalu ardoll o dan y Mesur hwn,

(ii)ym mherchenogaeth person o'r fath,

(iii)wedi ei meddiannu gan unrhyw gyflogai, asiant, contractwr neu denant i berson sy'n atebol i dalu ardoll, neu

(iv)ym mherchenogaeth person o'r fath;

(b)cael gweld ac arolygu unrhyw ddogfennau neu gofnodion (ym mha ffurf bynnag y'u cedwir) sydd ar y tir neu yn y fangre ac sydd wedi eu cadw at ddibenion sy'n gysylltiedig ag unrhyw ddyletswyddau neu rwymedigaethau sy'n codi o dan y Mesur hwn;

(c)arolygu unrhyw anifeiliaid sydd ar y tir neu yn y fangre;

(d)copïo unrhyw ddogfennau neu gofnodion y cyfeirir atynt ym mharagraff (b), neu fynd â'r dogfennau neu'r cofnodion hynny oddi yno fel bod modd eu copïo;

(e)mynd ag unrhyw beth oddi yno y mae'r person penodedig yn credu'n rhesymol ei fod yn dystiolaeth am unrhyw fethiant i gydymffurfio ag unrhyw ofynion o dan y Mesur hwn;

(f)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy'n atebol i dalu ardoll o dan y Mesur hwn ddarparu unrhyw ddogfen, cofnodion neu wybodaeth, ac unrhyw gyfleusterau eraill neu gymorth arall y mae'n rhesymol i'r person penodedig ofyn amdanynt neu amdano.

(5)Rhaid i fynediad a chwiliad o dan warant o dan yr adran hon fod ar adeg resymol ac o fewn mis i ddyddiad dyroddi'r warant.

(6)Caiff y person penodedig—

(a)cael unrhyw berson arall y mae'n ei ystyried yn angenrheidiol i fynd gydag ef;

(b)ei gwneud yn ofynnol i berson sy'n dal neu sy'n gyfrifol am unrhyw ddogfen roi unrhyw wybodaeth neu esboniad ag sy'n angenrheidiol ym marn y person penodedig; ac

(c)ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw ddod gerbron y person penodedig i roi'r wybodaeth neu'r esboniad neu i ddangos y ddogfen.

(7)Mewn perthynas â dogfen a gedwir ar ffurf electronig, mae'r pŵer yn is-adran (4)(f) i'w gwneud yn ofynnol i berson ddangos dogfen yn cynnwys pŵer i'w gwneud yn ofynnol iddi gael ei dangos ar ffurf sy'n ddarllenadwy ac y gellir mynd â hi oddi yno.

(8)Mewn cysylltiad ag arolygu dogfen o'r fath, caiff person penodedig—

(a)sicrhau mynediad i unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw aparatws neu ddeunydd cysylltiedig y mae'n credu eu bod yn cael neu wedi cael eu defnyddio mewn cysylltiad â'r ddogfen, ac arolygu a gwirio eu gweithrediad;

(b)ei gwneud yn ofynnol i berson o fewn is-adran (9) roi unrhyw gymorth rhesymol y bydd ar y person penodedig ei angen at y diben hwnnw.

(9)Y personau sy'n dod o fewn yr is-adran hon yw—

(a)unrhyw berson y mae'r cyfrifiadur yn cael neu wedi cael ei ddefnyddio ganddo neu ar ei ran; a

(b)unrhyw berson sydd â gofal dros y cyfrifiadur, yr aparatws neu'r deunydd, neu sydd fel arall yn ymwneud â'i weithredu.

(10)Rhaid i berson penodedig, os gofynnir iddo wneud hynny, ddangos—

(a)y warant, a

(b)dogfennau sy'n nodi bod y person penodedig yn berson sydd ag awdurdod i osod gofynion o dan yr adran hon.

(11)Os bydd person penodedig yn mynd ar unrhyw dir sydd heb ei feddiannu, neu'n mynd i mewn i unrhyw fangre sydd heb ei meddiannu, rhaid i'r person penodedig—

(a)gadael y lle hwnnw wedi ei ddiogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad diawdurdod ag ydoedd pan aeth y person yno, a

(b)gadael copi o'r warant mewn lle amlwg ar y tir neu yn y fangre.

(12)Mae person sydd, heb esgus rhesymol, yn atal unrhyw bŵer a roddir gan yr adran hon rhag cael ei arfer neu sy'n methu â chydymffurfio â gofyniad gan berson penodedig o dan yr adran hon yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

(13)Gellir adennill unrhyw dreuliau a dynnwyd gan berson penodedig mewn achos cyfreithiol am dramgwydd o dan is-adran (12), i'r graddau nad oes modd eu hadennill o unrhyw ffynhonnell arall, oddi wrth y person a gyflawnodd y tramgwydd.

12Tramgwyddau gan gyrff neu bartneriaethau

Explanatory NotesShow EN

(1)Pan fo corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan y Mesur hwn, ac y profir bod y tramgwydd hwnnw wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad unrhyw un o'r canlynol, neu os gellir priodoli'r tramgwydd i unrhyw esgeulustod ar ran unrhyw un o'r canlynol—

(a)unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog arall cyffelyb o'r corff corfforaethol; neu

(b)unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swyddogaeth o'r fath,

bydd y person hwnnw yn euog o'r tramgwydd yn ogystal â'r corff corfforaethol a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi'n unol â hynny.

(2)At ddibenion yr adran hon, ystyr “cyfarwyddwr” (“director”), mewn perthynas â chorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol.

(3)Mae achos am dramgwydd yr honnir ei fod wedi'i gyflawni o dan y Mesur hwn gan gorff anghorfforedig i'w ddwyn yn enw'r corff hwnnw (ac nid yn enw unrhyw un o'i aelodau) ac, at ddibenion unrhyw achos o'r fath, mae effaith i unrhyw reolau llys sy'n ymwneud â chyflwyno dogfennau fel petai'r corff hwnnw yn gorfforaeth.

(4)Mae unrhyw ddirwy a osodir ar gorff anghorfforedig adeg ei gollfarnu o dramgwydd o dan y Mesur hwn i'w thalu allan o gronfeydd y corff hwnnw.

(5)Os bydd corff anghorfforedig yn cael ei gyhuddo o dramgwydd o dan y Mesur hwn mae effaith i adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1925 (p. 86) ac Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p. 43) mewn perthynas â'r corff anghorfforedig fel petai corfforaeth wedi'i chyhuddo.

(6)Os profir bod tramgwydd o dan y Mesur hwn sydd wedi'i gyflawni gan gorff anghorfforedig (ac eithrio partneriaeth) wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad unrhyw un o swyddogion y corff hwnnw neu unrhyw aelod o'i gorff llywodraethu, neu os gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran unrhyw un o swyddogion y corff hwnnw neu unrhyw aelod o'i gorff llywodraethu, bydd y person hwnnw yn ogystal â'r corff, yn euog o'r tramgwydd a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi'n unol â hynny.

(7)Os profir bod tramgwydd o dan y Mesur hwn sydd wedi'i gyflawni gan bartneriaeth neu bartneriaeth Albanaidd wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu os gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran partner, bydd y partner hwnnw yn ogystal â'r bartneriaeth, yn euog o'r tramgwydd a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi'n unol â hynny.

13Cyfyngiadau amser ar gyfer dwyn achos

Explanatory NotesShow EN

(1)Caniateir i achos am dramgwydd o dan y Mesur hwn gael ei ddwyn ar unrhyw adeg o fewn cyfnod o 6 mis gan ddechrau ar y dyddiad y daeth tystiolaeth sy'n ddigonol ym marn yr erlynydd i gyfiawnhau dwyn yr achos yn hysbys iddo.

(2)Ond ni chaniateir cychwyn achos fwy na 2 flynedd ar ôl dyddiad cyflawni'r tramgwydd.

14Diffiniadau

Explanatory NotesShow EN

Yn y Mesur hwn—

  • ystyr “allforio” (“export”) yw cludo gwartheg, defaid neu foch allan o'r Deyrnas Unedig;

  • ystyr “allforiwr” (“exporter”) yw unrhyw berson sy'n allforio gwartheg, defaid neu foch;

  • ystyr “amcanion” (“objectives”) yw'r amcanion a nodwyd yn adran 2;

  • ystyr “cigyddwr” (“slaughterer”) yw unrhyw berson sydd â rheolaeth dros ladd-dy;

  • ystyr “gwartheg” (“cattle”) yw anifeiliaid buchol, gan gynnwys bison a byfflo;

  • ystyr “moch” (“pigs”) yw anifeiliaid o deulu'r moch, gan gynnwys baeddod gwyllt a moch fferal eraill;

  • ystyr “personau sy'n atebol i dalu ardoll” (“persons liable to pay a levy”) yw personau sydd wedi eu dynodi, drwy orchymyn gan Weinidogion Cymru, yn rhai sy'n atebol i dalu ardoll o dan y Mesur hwn, neu bersonau sy'n cyflawni gweithgaredd cynradd dynodedig neu weithgareddau eilaidd dynodedig o dan y Mesur hwn.

15Diddymu Bwrdd Ardollau Cymru

Explanatory NotesShow EN

(1)Mae Bwrdd Ardollau Cymru wedi'i ddiddymu.

(2)Wrth ddiddymu'r Bwrdd, mae ei eiddo, ei hawliau a'i atebolrwyddau yn breinio yng Ngweinidogion Cymru.

(3)Mae cyfeiriad mewn unrhyw ddogfen at Fwrdd Ardollau Cymru yn cael effaith, i'r graddau y mae'n angenrheidiol at ddibenion darpariaethau is-adran (2) neu o ganlyniad iddynt, fel pe bai'n gyfeiriad at Weinidogion Cymru.

(4)Mae Gorchymyn Bwrdd Ardollau Cymru 2008 (O.S.2008/420) wedi ei ddirymu.

16Cyfarwyddiadau

Explanatory NotesShow EN

(1)O ran unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru o dan y Mesur hwn—

(a)caniateir iddo gael ei amrywio neu ei ddirymu gan gyfarwyddyd diweddarach; a

(b)rhaid iddo gael ei roi mewn ysgrifen.

(2)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i roi cyfarwyddiadau o dan y Mesur hwn yn cynnwys pŵer—

(a)i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer gwahanol achosion, gwahanol weithgareddau sy'n ymwneud â'r diwydiant cig coch neu wahanol sectorau o'r diwydiant;

(b)i wneud darpariaeth yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achosion penodol.

17Gorchmynion a rheoliadau

Explanatory NotesShow EN

(1)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(2)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn cynnwys pŵer—

(a)i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer gwahanol achosion, gwahanol weithgareddau sy'n ymwneud â'r diwydiant cig coch neu wahanol sectorau o'r diwydiant;

(b)i wneud darpariaeth yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achosion penodol;

(c)i wneud y cyfryw ddarpariaeth gysylltiedig, atodol, canlyniadol, byrhoedlog, trosiannol neu'r cyfryw ddarpariaeth arbed ag y gwêl Gweinidogion Cymru'n dda ei gwneud.

(3)Mae offeryn statudol a wneir o dan unrhyw ddarpariaeth yn y Mesur hwn, ac eithrio adrannau 3(3), 4(4) neu (5), 5(4), 6(3) neu 18(2), yn ddarostyngedig i ddiddymiad yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(4)Ni chaniateir i unrhyw offeryn statudol sy'n cynnwys gorchymyn o dan adrannau 3(3), 4(4) neu (5), 5(4) neu 6(3) gael ei wneud oni fydd drafft o'r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

18Cychwyn

Explanatory NotesShow EN

(1)Daw'r darpariaethau a ganlyn i rym ar ddiwedd cyfnod o ddeufis yn cychwyn ar y diwrnod y cymeradwyir y Mesur hwn gan Ei Mawrhydi yn y Cyngor—

  • adran 17,

  • yr adran hon,

  • adran 19.

(2)Daw gweddill darpariaethau'r Mesur hwn i rym yn unol â darpariaeth a wneir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.

19Enw byr

Explanatory NotesShow EN

Enw'r Mesur hwn yw Mesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Show Explanatory Notes for Sections: Displays relevant parts of the explanatory notes interweaved within the legislation content.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Assembly Government department responsible for the subject matter of the Measure to explain what the Measure sets out to achieve and to make the Measure accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Measures of the National Assembly for Wales.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources