1Ystyr “y diwydiant cig coch”
1
Yn y Mesur hwn, ystyr “y diwydiant cig coch” yw—
a
gweithgareddau sy'n rhan o fridio, cadw, prosesu, marchnata a dosbarthu unrhyw rai o'r anifeiliaid canlynol—
i
gwartheg,
ii
defaid, neu
iii
moch; a
b
gweithgareddau sy'n rhan o gynhyrchu, prosesu, marchnata, gweithgynhyrchu a dosbarthu cynhyrchion sy'n dod o'r anifeiliaid hynny i unrhyw raddau helaeth (ar wahân i laeth a chynhyrchion llaeth, gwlân cnu a chrwyn); a
c
lladd-dai, arwerthiannau a marchnadoedd sy'n cael eu defnyddio'n llwyr neu'n rhannol ar gyfer gweithgareddau sy'n dod o fewn paragraffau (a) neu (b).
2
Yn y Mesur hwn—
ystyr “sector defaid” (“sheep sector”) yw'r diwydiant cig coch i'r graddau y mae'n ymwneud â defaid;
ystyr “sector gwartheg” (“cattle sector”) yw'r diwydiant cig coch i'r graddau y mae'n ymwneud â gwartheg;
ystyr “sector moch” (“pig sector”) yw'r diwydiant cig coch i'r graddau y mae'n ymwneud â moch.
3
Caniateir i'r pwerau sydd wedi eu rhoi i Weinidogion Cymru gan y Mesur hwn gael eu harfer—
a
mewn perthynas â'r diwydiant cig coch yn ei gyfanrwydd, neu
b
mewn perthynas â rhai sectorau o'r diwydiant yn unig;
a chaniateir iddynt gael eu harfer mewn ffordd wahanol ar gyfer gwahanol sectorau o'r diwydiant.
4
Mae unrhyw gyfeiriad yn y Mesur hwn at anifeiliaid yn cynnwys (lle mae'r cyd-destun yn galw am hynny) cyfeiriad at anifeiliaid meirw.