Caiff Gweinidogion Cymru benodi person (y cyfeirir ato yn y Mesur hwn fel “person penodedig”) i ganfod—
(a)a yw'r wybodaeth sydd wedi ei darparu mewn unrhyw ddatganiad yn gywir;
(b)a yw nifer yr anifeiliaid y mae'r ardoll wedi'i seilio arno yn gywir;
(c)a yw'r ardoll sy'n ddyledus o dan y Mesur hwn wedi ei thalu; a
(d)a oes tramgwydd o dan y Mesur hwn yn cael neu wedi cael ei gyflawni.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 10 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 18(2)
I2A. 10 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2011/2802, ergl. 2(2) (ynghyd ag erglau. 3, 4)