ATODLEN 1ANGHYMWYSO RHAG BOD YN AELOD O'R BWRDD
1
Mae'r personau canlynol wedi'u hanghymwyso rhag bod yn aelodau o'r Bwrdd—
(a)
aelod o'r Cynulliad,
(b)
y Cwnsler Cyffredinol (os nad yw'n aelod o'r Cynulliad),
(c)
ymgeisydd i'w ethol yn aelod o'r Cynulliad,
(d)
person y gallai fod angen i'w enw, pe bai sedd aelod Cynulliad rhanbarthol yn dod yn wag, gael ei hysbysu i'r Llywydd o dan adran 11 o'r Ddeddf (seddi gwag mewn rhanbarthau etholiadol),
(e)
aelod o Senedd Ewrop, Tŷ'r Cyffredin, Tŷ'r Arglwyddi, Senedd yr Alban neu Gynulliad Gogledd Iwerddon,
(f)
aelod o staff y Cynulliad,
(g)
aelod o staff Llywodraeth Cynulliad Cymru,
(h)
person a gyflogir gan aelod o'r Cynulliad neu gan grŵp o aelodau'r Cynulliad er mwyn helpu'r aelod hwnnw neu'r aelodau o'r grŵp hwnnw i gyflawni swyddogaethau aelod o'r Cynulliad,
(i)
Archwilydd Cyffredinol Cymru,
(j)
Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru,
(k)
aelod o Bwyllgor Rheolaeth Gorfforaethol Comisiwn y Cynulliad,
(l)
person sy'n dal apwyntiad fel Ymgynghorydd Annibynnol i Gomisiwn y Cynulliad,
(m)
person a oedd yn aelod o'r nail neu'r llall o'r panelu a apwyntiwyd gan Gomisiwn y Cynulliad i adolygu cyflogau a lwfansau aelodau o'r Cynulliad yn unol â phenderfyniadau Comisiwn y Cynulliad ar 4 Gorffennaf 2007 ac 8 Mai 2008,
(n)
person sy'n dal apwyntiad fel Cyfarwyddwr Anweithredol Llywodraeth Cynulliad Cymru.
2
At ddibenion paragraff 1(c) daw person yn ymgeisydd i'w ethol yn aelod o'r Cynulliad—
(a)
ar y diwrnod y datgenir bod y person hwnnw'n ymgeisydd (boed gan y person o dan sylw neu gan eraill ), neu
(b)
ar y diwrnod yr enwebir y person hwnnw'n ymgeisydd mewn etholiad i'r Cynulliad,
p'un bynnag fydd gyntaf.
3
Wrth benderfynu, at ddibenion paragraff 1(d), a allai fod angen i enw person gael ei hysbysu i'r Llywydd o dan adran 11 o'r Ddeddf, mae gofynion paragraffau (b) a (c) o is adran (3) o'r adran honno i'w hanwybyddu.