ATODLEN 1ANGHYMWYSO RHAG BOD YN AELOD O'R BWRDD

(a gyflwynir gan adran 4)

I11

Mae'r personau canlynol wedi'u hanghymwyso rhag bod yn aelodau o'r Bwrdd—

a

F3Aelod o’r Senedd,

b

y Cwnsler Cyffredinol (os nad yw'n F3Aelod o’r Senedd),

c

ymgeisydd i'w ethol yn F3Aelod o’r Senedd,

d

person y gallai fod angen i'w enw, pe bai sedd F5Aelod rhanbarthol o’r Senedd yn dod yn wag, gael ei hysbysu i'r Llywydd o dan adran 11 o'r Ddeddf (seddi gwag mewn rhanbarthau etholiadol),

e

aelod o Senedd Ewrop, Tŷ'r Cyffredin, F1... Senedd yr Alban neu Gynulliad Gogledd Iwerddon,

f

aelod o staff y F4Senedd,

g

aelod o staff Llywodraeth F6... Cymru,

h

person a gyflogir gan F3Aelod o’r Senedd neu gan F7grŵp o Aelodau er mwyn helpu'r aelod hwnnw neu'r aelodau o'r grŵp hwnnw i gyflawni swyddogaethau F3Aelod o’r Senedd,

i

Archwilydd Cyffredinol Cymru,

j

Comisiynydd Safonau F8y Senedd,

k

aelod o Bwyllgor Rheolaeth Gorfforaethol Comisiwn y F4Senedd,

l

person sy'n dal apwyntiad fel Ymgynghorydd Annibynnol i Gomisiwn y F4Senedd,

F2m

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

n

person sy'n dal apwyntiad fel Cyfarwyddwr Anweithredol Llywodraeth F9... Cymru.

I22

At ddibenion paragraff 1(c) daw person yn ymgeisydd i'w ethol yn F3Aelod o’r Senedd

a

ar y diwrnod y datgenir bod y person hwnnw'n ymgeisydd (boed gan y person o dan sylw neu gan eraill ), neu

b

ar y diwrnod yr enwebir y person hwnnw'n ymgeisydd mewn etholiad i'r F4Senedd,

p'un bynnag fydd gyntaf.

Annotations:
Commencement Information
I2

Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 22.7.2010, gweler a. 20(2)

I33

Wrth benderfynu, at ddibenion paragraff 1(d), a allai fod angen i enw person gael ei hysbysu i'r Llywydd o dan adran 11 o'r Ddeddf, mae gofynion paragraffau (b) a (c) o is adran (3) o'r adran honno i'w hanwybyddu.