Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010

(a gyflwynir gan adran 4)

ATODLEN 1LL+CANGHYMWYSO RHAG BOD YN AELOD O'R BWRDD

This schedule has no associated Explanatory Notes

1LL+CMae'r personau canlynol wedi'u hanghymwyso rhag bod yn aelodau o'r Bwrdd—

(a)[F1Aelod o’r Senedd],

(b)y Cwnsler Cyffredinol (os nad yw'n [F1Aelod o’r Senedd]),

(c)ymgeisydd i'w ethol yn [F1Aelod o’r Senedd],

(d)person y gallai fod angen i'w enw, pe bai sedd [F2Aelod rhanbarthol o’r Senedd] yn dod yn wag, gael ei hysbysu i'r Llywydd o dan adran 11 o'r Ddeddf (seddi gwag mewn rhanbarthau etholiadol),

(e)aelod o Senedd Ewrop, Tŷ'r Cyffredin, F3... Senedd yr Alban neu Gynulliad Gogledd Iwerddon,

(f)aelod o staff y [F4Senedd],

(g)aelod o staff Llywodraeth F5... Cymru,

(h)person a gyflogir gan [F1Aelod o’r Senedd] neu gan [F6grŵp o Aelodau] er mwyn helpu'r aelod hwnnw neu'r aelodau o'r grŵp hwnnw i gyflawni swyddogaethau [F1Aelod o’r Senedd],

(i)Archwilydd Cyffredinol Cymru,

(j)Comisiynydd Safonau [F7y Senedd],

(k)aelod o Bwyllgor Rheolaeth Gorfforaethol Comisiwn y [F4Senedd],

(l)person sy'n dal apwyntiad fel Ymgynghorydd Annibynnol i Gomisiwn y [F4Senedd],

F8(m). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(n)person sy'n dal apwyntiad fel Cyfarwyddwr Anweithredol Llywodraeth F9... Cymru.

2LL+CAt ddibenion paragraff 1(c) daw person yn ymgeisydd i'w ethol yn [F1Aelod o’r Senedd]

(a)ar y diwrnod y datgenir bod y person hwnnw'n ymgeisydd (boed gan y person o dan sylw neu gan eraill ), neu

(b)ar y diwrnod yr enwebir y person hwnnw'n ymgeisydd mewn etholiad i'r [F4Senedd],

p'un bynnag fydd gyntaf.

Diwygiadau Testunol

F1Geiriau yn y Mesur wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), Atod. 1 para. 4(9) (ynghyd ag Atod. 1 para. 4(7)(8))

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 22.7.2010, gweler a. 20(2)

3LL+CWrth benderfynu, at ddibenion paragraff 1(d), a allai fod angen i enw person gael ei hysbysu i'r Llywydd o dan adran 11 o'r Ddeddf, mae gofynion paragraffau (b) a (c) o is adran (3) o'r adran honno i'w hanwybyddu.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 22.7.2010, gweler a. 20(2)