10Cyfarfodydd y Bwrdd

(1)

Yn ddarostyngedig i is-adrannau (2) a (3) ac i adran 13(7), (8) a (9), mater i'r Bwrdd yw penderfynu pa bryd y bydd yn cyfarfod.

(2)

Rhaid i'r Bwrdd gyfarfod o leiaf unwaith ym mhob blwyddyn galendr.

(3)

Rhaid i'r Bwrdd, os bydd y Clerc yn gofyn iddo, gyfarfod er mwyn ystyried mater neu faterion penodol sy'n berthnasol i'w swyddogaethau.

(4)

Rhaid i gais o dan is-adran (3) fod mewn ysgrifen a rhaid iddo bennu'r mater neu'r materion o dan sylw.