13Arfer swyddogaethau mewn perthynas â chyflogau
(1)Yn ddarostyngedig i is-adran (2), mae cyfeiriadau yn yr adran hon at dymor Cynulliad yn gyfeiriadau at y cyfnod sy'n dechrau ar y diwrnod y cynhelir pôl mewn etholiad cyffredinol cyffredin i'r Cynulliad ac sy'n diweddu ar y diwrnod cyn y diwrnod y cynhelir pôl yn yr etholiad cyffredinol cyffredin nesaf i'r Cynulliad.
(2)Os bydd—
(a)etholiad cyffredinol anghyffredin i'r Cynulliad yn cael ei gynnal, a
(b)bod adran 5(5) o'r Ddeddf yn gymwys,
wedyn, at ddibenion yr adran hon, mae tymor y Cynulliad yn diweddu ar y diwrnod cyn y diwrnod y cynhelir y pôl ar gyfer yr etholiad cyffredinol anghyffredin hwnnw ac mae tymor nesaf y Cynulliad yn dechrau ar y diwrnod y cynhelir y pôl hwnnw.
(3)Yn ddarostyngedig i is-adran (4) ni chaiff y Bwrdd wneud mwy nag—
(a)un penderfyniad sy'n gwneud darpariaeth o dan adran 20(1) o'r Ddeddf (talu cyflogau i aelodau'r Cynulliad), a
(b)un penderfyniad sy'n gwneud darpariaeth o dan adran 53(1) o'r Ddeddf (talu cyflogau i Brif Weinidog Cymru, Gweinidogion Cymru, y Cwnsler Cyffredinol a Dirprwy Weinidogion Cymru),
sydd i fod yn effeithiol yn ystod pob un o dymhorau'r Cynulliad.
(4)Nid yw is-adran (3) yn gymwys os yw'r Bwrdd o'r farn bod yna amgylchiadau eithriadol sy'n golygu ei bod yn gyfiawn ac yn rhesymol i'r cyfyngiadau a osodir gan is-adran (3) beidio â bod yn gymwys.
(5)Os bydd y Bwrdd yn ffurfio barn o'r math y cyfeirir ati yn is-adran (4) rhaid iddo ddatgan mewn ysgrifen ei resymau dros fod wedi gwneud hynny, gan gyfleu'r datganiad hwnnw i Gomisiwn y Cynulliad yr un pryd â'r penderfyniad y mae'n ymwneud ag ef.
(6)Rhaid i Gomisiwn y Cynulliad osod gerbron y Cynulliad unrhyw ddatganiad a gyflëir iddo o dan is-adran (5) yr un pryd ag y bydd yn gosod gerbron y Cynulliad y penderfyniad y mae'n ymwneud ag ef.
(7)Rhaid i'r Bwrdd, o ran pob tymor Cynulliad, wneud penderfyniad sy'n gwneud darpariaeth o dan adran 20(1) o'r Ddeddf ac sydd i fod yn effeithiol, pryd bynnag y'i gwnaed, o ddechrau'r tymor hwnnw.
(8)Rhaid i'r Bwrdd, o ran pob tymor Cynulliad, wneud penderfyniad sy'n gwneud darpariaeth o dan adran 53(1) o'r Ddeddf ac sydd i fod yn effeithiol, pryd bynnag y'i gwnaed, o ddechrau'r tymor hwnnw.
(9)Rhaid i'r Bwrdd, cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol, wneud y penderfyniadau y cyfeirir atynt yn is-adrannau (7) ac (8) cyn diwedd y tymor Cynulliad cyn y tymor Cynulliad y maent i fod yn effeithiol mewn perthynas ag ef, ond os yw'n methu â gwneud hynny, rhaid i Gomisiwn y Cynulliad—
(a)nes bod penderfyniadau o'r fath yn cael eu gwneud, barhau i wneud taliadau yn unol â'r penderfyniadau a gafodd effaith mewn perthynas â'r tymor blaenorol hwnnw o'r Cynulliad, a
(b)pan gaiff penderfyniadau o'r fath eu gwneud, addasu unrhyw daliadau dilynol i wneud iawn am unrhyw dandaliadau neu adennill unrhyw ordaliadau, yn ôl fel y digwydd.