I12Annibyniaeth, bod yn agored ac yn gynhwysol
1
2
Rhaid i'r Bwrdd—
a
weithredu'n gyffredinol mewn modd agored a thryloyw, a
b
cyhoeddi ar wefan y F3Senedd y cyfryw wybodaeth a fydd yn caniatáu i'r cyhoedd gael eu hysbysu am ei weithgareddau.
3
Nid yw is-adran (2) yn atal y Bwrdd rhag ystyried mater yn breifat na rhag cadw ei ystyriaeth ar y mater hwnnw'n breifat os yw natur y mater hwnnw, ym marn y Bwrdd, yn golygu ei bod yn briodol gwneud hynny.
4
Rhaid i'r Bwrdd, cyn arfer unrhyw rai o'i swyddogaethau, ymgynghori â'r personau a ganlyn y mae'n debyg yr effeithir arnynt, oni bai bod y Bwrdd yn credu bod amgylchiadau sy'n golygu ei bod yn amhriodol gwneud hynny—
a
F1Aelodau o’r Senedd,
c
undebau llafur perthnasol, a
d
unrhyw bersonau eraill y mae'n credu eu bod yn briodol.
5
Rhaid i'r Bwrdd, wrth ymgynghori ag F1Aelodau o’r Senedd, roi sylw i is-adran (1).