1Ymgysylltiad cymunedau â gwarediadau gan awdurdodau lleol o gaeau chwaraeLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, trwy reoliadau, wneud darpariaeth ar gyfer ymgysylltiad cymunedau â phenderfyniadau gan awdurdodau lleol am warediadau ganddynt o dir sy'n gae chwarae neu'n rhan o gae chwarae.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ymhlith pethau eraill–

(a)cymhwyso'r rheoliadau i fathau penodedig o warediadau;

(b)cymhwyso'r rheoliadau i warediadau o fathau penodedig o gae chwarae;

(c)gwneud gwarediad y mae'r rheoliadau yn gymwys iddo yn ddarostyngedig i ymgynghoriad yn unol â'r rheoliadau;

(d)pennu'r personau neu'r categorïau o berson y mae'n rhaid ymgynghori â hwy, sef y personau hynny yr effeithir arnynt gan warediad neu sydd â buddiant mewn gwarediad, a'r gwarediad hwnnw yn un y mae'r rheoliadau yn gymwys iddo;

(e)darparu ar gyfer ffurf a dull yr ymgynghori;

(f)darparu ar gyfer rhoi hysbysiad am warediadau arfaethedig, gan gynnwys ffurf a dull yr hysbysiad;

(g)ei gwneud yn ofynnol bod gwybodaeth am y canlynol yn cael ei darparu–

(i)effaith gwarediad arfaethedig ar unrhyw strategaeth, cynllun neu asesiad a bennir yn y rheoliadau, neu

(ii)unrhyw beth arall cysylltiedig â gwarediad arfaethedig;

(h)pennu ffurf a dull y mae'r wybodaeth i'w darparu ynddi ac ynddo;

(i)darparu bod rhaid i awdurdod lleol, wrth arfer ei swyddogaethau o dan y rheoliadau, roi sylw i ganllawiau a roddir o bryd i'w gilydd gan Weinidogion Cymru;

(j)gwneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol neu ddosbarthau ar achosion gwahanol;

(k)gwneud darpariaeth yn gyffredinol neu yn ddarostyngedig i eithriadau neu yn unig o ran achosion penodol neu ddosbarthau ar achosion penodol;

(l)gwneud unrhyw ddarpariaethau cysylltiedig, darpariaethau atodol, darpariaethau canlyniadol, darpariaethau trosiannol neu ddarpariaethau arbed a wêl Gweinidogion Cymru yn dda.

(3)Yn y Mesur hwn–

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw–

    (i)

    cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol,

    (ii)

    cyngor cymuned (gan gynnwys cyngor tref),

    (iii)

    awdurdod Parc Cenedlaethol;

  • ystyr “cae chwarae” (“playing field”) yw man agored sy'n cynnwys un neu fwy o ardaloedd sydd ar unrhyw adeg wedi'u marcio neu wedi'u neilltuo fel arall ar gyfer chwaraeon neu weithgaredd hamddenol tebyg;

  • ystyr “gwarediad” (“disposal”) yw rhoi unrhyw ystâd neu fuddiant mewn tir neu wneud cytundeb i wneud hynny.