Mesur Caeau Chwarae (Ymgysylltiad Cymunedau â Phenderfyniadau Gwaredu) (Cymru) 2010

2010 mccc 6

Mesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud darpariaeth ynghylch ymgysylltiad cymunedau â phenderfyniadau gan awdurdodau lleol yng Nghymru a ddylid gwaredu caeau chwarae; ac at ddibenion cysylltiedig.

Mae'r Mesur hwn, a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 6 Hydref 2010 ac a gymeradwywyd gan Ei Mawrhydi yn Ei Chyngor ar 15 Rhagfyr 2010, yn deddfu'r darpariaethau a ganlyn:–

I11Ymgysylltiad cymunedau â gwarediadau gan awdurdodau lleol o gaeau chwarae

1

Caiff Gweinidogion Cymru, trwy reoliadau, wneud darpariaeth ar gyfer ymgysylltiad cymunedau â phenderfyniadau gan awdurdodau lleol am warediadau ganddynt o dir sy'n gae chwarae neu'n rhan o gae chwarae.

2

Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ymhlith pethau eraill–

a

cymhwyso'r rheoliadau i fathau penodedig o warediadau;

b

cymhwyso'r rheoliadau i warediadau o fathau penodedig o gae chwarae;

c

gwneud gwarediad y mae'r rheoliadau yn gymwys iddo yn ddarostyngedig i ymgynghoriad yn unol â'r rheoliadau;

d

pennu'r personau neu'r categorïau o berson y mae'n rhaid ymgynghori â hwy, sef y personau hynny yr effeithir arnynt gan warediad neu sydd â buddiant mewn gwarediad, a'r gwarediad hwnnw yn un y mae'r rheoliadau yn gymwys iddo;

e

darparu ar gyfer ffurf a dull yr ymgynghori;

f

darparu ar gyfer rhoi hysbysiad am warediadau arfaethedig, gan gynnwys ffurf a dull yr hysbysiad;

g

ei gwneud yn ofynnol bod gwybodaeth am y canlynol yn cael ei darparu–

i

effaith gwarediad arfaethedig ar unrhyw strategaeth, cynllun neu asesiad a bennir yn y rheoliadau, neu

ii

unrhyw beth arall cysylltiedig â gwarediad arfaethedig;

h

pennu ffurf a dull y mae'r wybodaeth i'w darparu ynddi ac ynddo;

i

darparu bod rhaid i awdurdod lleol, wrth arfer ei swyddogaethau o dan y rheoliadau, roi sylw i ganllawiau a roddir o bryd i'w gilydd gan Weinidogion Cymru;

j

gwneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol neu ddosbarthau ar achosion gwahanol;

k

gwneud darpariaeth yn gyffredinol neu yn ddarostyngedig i eithriadau neu yn unig o ran achosion penodol neu ddosbarthau ar achosion penodol;

l

gwneud unrhyw ddarpariaethau cysylltiedig, darpariaethau atodol, darpariaethau canlyniadol, darpariaethau trosiannol neu ddarpariaethau arbed a wêl Gweinidogion Cymru yn dda.

3

Yn y Mesur hwn–

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw–

    1. i

      cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol,

    2. ii

      cyngor cymuned (gan gynnwys cyngor tref),

    3. iii

      awdurdod Parc Cenedlaethol;

  • ystyr “cae chwarae” (“playing field”) yw man agored sy'n cynnwys un neu fwy o ardaloedd sydd ar unrhyw adeg wedi'u marcio neu wedi'u neilltuo fel arall ar gyfer chwaraeon neu weithgaredd hamddenol tebyg;

  • ystyr “gwarediad” (“disposal”) yw rhoi unrhyw ystâd neu fuddiant mewn tir neu wneud cytundeb i wneud hynny.

Annotations:
Commencement Information
I1

A. 1 mewn grym ar 15.12.2010, gweler a. 5(2)

I22Diwygio Deddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70)

1

Diwygir Deddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) fel a ganlyn.

2

Yn adran 123 (gwaredu tir gan y prif gynghorau)–

a

yn is-adran (1), ar ôl “Subject to the following provisions of this section,” mewnosoder–

and to those of the Playing Fields (Community Involvement in Disposal Decisions) (Wales) Measure 2010,

b

ar ôl is-adran (2A), mewnosoder–

2AA

Subsection (2A) does not apply to a disposal to which the provisions of regulations made under section 1 of the Playing Fields (Community Involvement in Disposal Decisions) (Wales) Measure 2010 apply.

c

yn is-adran (2B), ar ôl “by virtue of subsection (2A) above”, mewnosoder–

or in accordance with the provisions of regulations made under section 1 of the Playing Fields (Community Involvement in Disposal Decisions) (Wales) Measure 2010.

3

Yn adran 127 (gwaredu tir gan blwyfi a chymunedau), yn is-adran (1), ar ôl “Subject to the following provisions of this section,” mewnosoder–

and to those of the Playing Fields (Community Involvement in Disposal Decisions) (Wales) Measure 2010,

Annotations:
Commencement Information
I2

A. 2 mewn grym ar 15.12.2010, gweler a. 5(2)

I33Gwaredu caeau chwarae gan awdurdodau Parciau Cenedlaethol

1

Diwygir Deddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25) fel a ganlyn.

2

Yn Atodlen 8, ar ôl paragraff 1(1), mewnosoder–

1A

The reference in sub-paragraph (1) to section 123 of the 1972 Act is to be interpreted as a reference to that section as amended by section 2 of the Playing Fields (Community Involvement in Disposal Decisions) (Wales) Measure 2010 in so far as that sub-paragraph applies to a National Park authority for a National Park in Wales.

Annotations:
Commencement Information
I3

A. 3 mewn grym ar 15.12.2010, gweler a. 5(2)

I44Trefn ar gyfer rheoliadau

1

Mae unrhyw bŵer i wneud rheoliadau a roddir gan y Mesur hwn yn arferadwy drwy offeryn statudol.

2

Mae unrhyw offeryn statudol sy'n cynnwys rheoliadau a wneir o dan y Mesur hwn yn gallu cael ei ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan y Cynulliad.

Annotations:
Commencement Information
I4

A. 4 mewn grym ar 15.12.2010, gweler a. 5(2)

I55Enw byr a chychwyn

1

Enw'r Mesur hwn yw Mesur Caeau Chwarae (Ymgysylltiad Cymunedau â Phenderfyniadau Gwaredu) (Cymru) 2010.

2

Daw'r Mesur hwn i rym ar y diwrnod y'i cymeradwyir gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor.