Nodiadau Esboniadol i Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 Nodiadau Esboniadol

Adran 48 – Dyletswydd i adolygu’r Mesur

83.Mae adran 48 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i adolygu gweithrediad y Mesur at ddibenion cyhoeddi adroddiad neu adroddiadau. Rhaid cyhoeddi adroddiad o fewn pedair blynedd ar ôl cychwyn prif ddarpariaethau Rhan 1, a hefyd Rhannau 2, 3, a 4 o’r Mesur. Caniateir cychwyn adolygiad cyn cyhoeddi adroddiad ar unrhyw adeg, ar yr amod bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod digon o amser wedi mynd heibio ers pan gychwynnwyd y Rhan neu’r ddarpariaeth briodol o’r Mesur. Rhaid gosod copi o’r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Back to top