RHAN 1GWASANAETHAU CYMORTH IECHYD MEDDWL SYLFAENOL LLEOL
Asesiadau iechyd meddwl sylfaenol
I1I66Dyletswyddau i gynnal asesiadau iechyd meddwl sylfaenol: atgyfeiriadau ar gyfer cleifion cofrestredig mewn gofal sylfaenol
1
Mae'r adran hon yn gymwys i unigolyn–
a
nad yw'n dod o fewn unrhyw un o'r disgrifiadau yn adran 8(1); a
b
y gwneir atgyfeiriad perthnasol at ddibenion yr adran hon mewn cysylltiad ag ef.
2
Rhaid i asesiad iechyd meddwl sylfaenol gael ei gynnal mewn cysylltiad â'r unigolyn yn unol ag adran 9.
3
Ystyr atgyfeiriad perthnasol at ddibenion yr adran hon yw cais am i unigolyn gael asesiad iechyd meddwl sylfaenol sy'n bodloni'r amodau canlynol.
4
Yr amod cyntaf yw bod y cais yn cael ei wneud–
a
gan gontractiwr yr ymrwymwyd mewn contract gwasanaethau meddygol cyffredinol gydag ef o dan adran 42 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006–
i
gan y Bwrdd Iechyd Lleol y gwnaed y cais iddo, neu
ii
os gwneir y cais i awdurdod lleol, y Bwrdd Iechyd Lleol sy'n bartner iechyd meddwl lleol i'r awdurdod;
b
gan berson y gwnaed trefniadau gydag ef o dan adran 50 o'r Ddeddf honno–
i
gan y Bwrdd Iechyd Lleol y gwneir y cais iddo, neu
ii
os gwneir y cais i awdurdod lleol, y Bwrdd Iechyd Lleol sy'n bartner iechyd meddwl lleol i'r awdurdod; neu
c
gan ymarferydd meddygol cofrestredig a gyflogir at ddibenion adran 41 o'r Ddeddf honno–
i
gan y Bwrdd Iechyd Lleol y gwneir y cais iddo, neu
ii
os gwneir y cais i awdurdod lleol, y Bwrdd Iechyd Lleol sy'n bartner iechyd meddwl lleol i'r awdurdod.
5
Yr ail amod yw bod yr unigolyn y gwneir y cais mewn cysylltiad ag ef yn un o gleifion cofrestredig y contractiwr, y person neu'r ymarferydd sy'n gwneud yr atgyfeiriad.
6
Y trydydd amod yw bod y cais yn cael ei wneud i bartner iechyd meddwl lleol ar gyfer ardal yr awdurdod lleol lle y mae'r unigolyn fel arfer yn preswylio.
7
At ddibenion yr adran hon ac adrannau 7 ac 8 mae cais i'w drin fel pe bai wedi ei wneud gan contractiwr o dan gontract gwasanaethau meddygol cyffredinol yr ymrwymwyd ynddo o dan adran 42 o Ddeddf y Gwasanaethau Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, gan berson y mae trefniadau wedi eu gwneud gydag ef o dan adran 50 o'r Ddeddf honno, neu gan gontractiwr sy'n cael ei gyflogi at ddibenion adran 41 o'r Ddeddf honno, os gwneir y cais gydag awdurdodaeth y contractiwr, y person neu'r ymarferydd.
I2I77Dyletswyddau i gynnal asesiadau iechyd meddwl sylfaenol: atgyfeiriadau gofal sylfaenol eraill
1
Mae'r adran hon yn gymwys i unigolyn–
a
nad yw'n dod o fewn unrhyw un o'r disgrifiadau yn adran 8(1); a
b
y gwneir atgyfeiriad perthnasol mewn cysylltiad ag ef at ddibenion yr adran hon.
2
Rhaid cynnal asesiad iechyd meddwl sylfaenol mewn cysylltiad â'r unigolyn yn unol ag adran 9.
3
Ystyr atgyfeiriad perthnasol at ddibenion yr adran hon yw cais am i unigolyn gael asesiad iechyd meddwl sylfaenol sy'n bodloni'r amodau canlynol.
4
Yr amod cyntaf yw bod cais yn cael ei wneud–
a
gan gontractiwr yr ymrwymwyd mewn contract gwasanaethau meddygol cyffredinol gydag ef o dan adran 42 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006–
i
gan y Bwrdd Iechyd Lleol y gwneir y cais iddo, neu
ii
os gwneir y cais i awdurdod lleol, gan y Bwrdd Iechyd Lleol sy'n bartner iechyd meddwl lleol i'r awdurdod;
b
gan berson y mae trefniadau wedi eu gwneud o dan adran 50 o'r Ddeddf honno–
i
gan y Bwrdd Iechyd lleol y gwneir y cais iddo, neu
ii
os gwneir y cais i awdurdod lleol, y Bwrdd Iechyd Lleol sy'n bartner iechyd meddwl lleol i'r awdurdod;
c
gan ymarferydd meddygol cofrestredig a gyflogir at ddibenion adran 41 o'r Ddeddf honno–
i
gan y Bwrdd Iechyd Lleol y gwneir y cais iddo, neu
ii
os gwneir y cais i awdurdod lleol, y Bwrdd Iechyd Lleol sy'n bartner iechyd meddwl lleol i'r awdurdod; neu
d
gan ymarferydd meddygol cofrestredig sy'n darparu gwasanaethau i garcharorion o dan drefniadau a wnaed rhwng yr ymarferydd meddygol cofrestredig a pherson sy'n gyfrifol am ddarparu neu redeg carchar sydd wedi ei gontractio allan (o fewn ystyr adran 84(4) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1991) yng Nghymru.
5
Yr ail amod yw bod y cais yn cael ei wneud i bartner iechyd meddwl lleol ar gyfer ardal yr awdurdod lleol lle y mae'r contractiwr, y person neu'r ymarferydd yn ymgymryd â'r rhan fwyaf o fusnes neu weithgareddau'r contractiwr, y person neu'r ymarferydd.
6
Y trydydd amod yw bod yr unigolyn y gwneir y cais mewn cysylltiad ag ef yn dod o fewn categori a bennir–
a
mewn rheoliadau a wneir gan Weinigogion Cymru; neu
b
yn y cynllun ar gyfer yr ardal awdurdod lleol honno o dan adran 2(4)(c).
I3I88Dyletswyddau i gynnal asesiadau iechyd meddwl sylfaenol: atgyfeiriadau gofal iechyd meddwl eilaidd
1
Mae'r adran hon yn gymwys i unigolyn sy'n dod o fewn unrhyw un neu ragor o'r disgrifiadau canlynol–
a
unigolyn sy'n agored i gael ei gadw'n gaeth o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983;
b
unigolyn sy'n ddarostyngedig i warcheidiaeth o dan y Ddeddf honno;
c
unigolyn sy'n glaf cymunedol o fewn yr ystyr a roddir gan adran 17A o'r Ddeddf honno;
d
unigolyn sy'n cael gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd.
2
Rhaid i asesiad iechyd meddwl sylfaenol gael ei gynnal mewn cysylltiad â'r unigolyn yn unol ag adran 9–
a
os bydd y cynllun perthnasol yn darparu o dan adran 2(4)(b) fod asesiadau iechyd meddwl sylfaenol i fod ar gael mewn cysylltiad â'r holl gategorïau neu â chategorïau penodedig o unigolion y cyfeirir atynt yn is-adran (1);
b
os bydd yr unigolyn yn dod o fewn y disgrifiad yn y cynllun o'r unigolion hynny y mae asesiadau iechyd meddwl sylfaenol i fod ar gael mewn cysylltiad â hwy; a
c
os gwneir atgyfeiriad perthnasol at ddibenion yr adran hon.
3
Ystyr atgyfeiriad perthnasol at ddibenion yr adran hon yw cais am i unigolyn gael asesiad iechyd meddwl sylfaenol sy'n bodloni'r amodau canlynol.
4
Yr amod cyntaf yw bod y cais yn cael ei wneud i bartner iechyd meddwl lleol ar gyfer ardal yr awdurdod lleol lle y mae'r unigolyn fel arfer yn preswylio.
5
Yr ail amod yw bod y cais yn cael ei wneud gan aelod o staff sy'n dod o fewn categori a bennir yn y cynllun ar gyfer yr ardal awdurdod lleol honno o dan adran 2(5).
I4I99Cynnal asesiadau iechyd meddwl sylfaenol
1
Mae asesiad iechyd meddwl sylfaenol yn ddadansoddiad o iechyd meddwl unigolyn sy'n dynodi–
a
y driniaeth iechyd meddwl sylfaenol leol (os oes un) a allai wella iechyd meddwl yr unigolyn neu atal dirywiad ynddo (rhaid darparu unrhyw driniaeth a ddynodir felly: gweler adrannau 3 a 5); a
b
y gwasanaethau eraill (os oes rhai) a allai wella iechyd meddwl yr unigolyn neu atal dirywiad ynddo.
2
Rhaid i'r partneriaid iechyd meddwl lleol sicrhau bod yr asesiad yn cael ei gynnal gan unigolyn sy'n gymwys i gynnal asesiadau iechyd meddwl sylfaenol o dan reoliadau a wneir o dan adran 47.
3
Mae'r cyfeiriad at wasanaethau eraill yn is-adran (1)(b) yn gyfeiriad at–
a
gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd;
b
gwasanaethau o fath a ddarperir fel arfer gan ddarparwyr gofal sylfaenol;
c
gwasanaethau gofal cymunedol (nad ydynt yn wasanaethau iechyd meddwl eilaidd);
d
gwasanaethau a ddarperir o dan Ran III o Ddeddf Plant 1989 (nad ydynt yn wasanaethau iechyd meddwl eilaidd);
e
gwasanaethau tai neu wasanaethau llesiant; ac
f
addysg neu hyfforddiant a all fod o fudd i iechyd meddwl unigolyn.
I5I1010Camau i'w cymryd yn sgil asesiad iechyd meddwl sylfaenol
1
Pan fo asesiad iechyd meddwl sylfaenol yn dynodi gwasanaethau o dan adran 9(1)(b) a allai wella iechyd meddwl unigolyn neu atal dirywiad ynddo, rhaid i'r partner iechyd meddwl lleol a gynhaliodd yr asesiad–
a
os yw'r partner o'r farn mai ef fyddai'r awdurdod cyfrifol dros ddarparu unrhyw un neu ragor o'r gwasanaethau, benderfynu p'un a oes galw am unrhyw un neu ragor o'r gwasanaethau hynny ai peidio; a
b
os yw'r partner o'r farn nad ef fyddai'r awdurdod cyfrifol dros ddarparu unrhyw un neu ragor o'r gwasanaethau, atgyfeirio at y person y mae'r partner o'r farn mai hwnnw fyddai'r awdurdod cyfrifol dros ddarparu'r gwasanaethau hynny.
2
Rhaid i atgyfeiriad o dan is-adran (1)(b) hysbysu'r derbynnydd–
a
bod y partner iechyd meddwl lleol sy'n gwneud yr atgyfeiriad wedi dynodi gwasanaethau y mae o'r farn a allai wella iechyd meddwl yr unigolyn neu atal dirywiad ynddo; a
b
bod y partner o'r farn mai'r derbynnydd fyddai'r awdurdod cyfrifol dros ddarparu'r gwasanaethau hynny.
3
Rhaid i berson y gwnaed yr atgyfeiriad iddo benderfynu p'un a oes galw am ddarparu unrhyw un neu ragor o'r gwasanaethau y mae'r atgyfeiriad yn berthnasol iddynt ai peidio.
4
Yn yr adran hon ystyr “awdurdod cyfrifol” yw'r person a fyddai'n gyfrifol dros ddarparu gwasanaethau pe bai penderfyniad yn cael ei wneud i ddarparu'r gwasanaethau.
5
Nid oes dim yn yr adran hon yn ei gwneud yn ofynnol neu'n awdurdodi gwneud atgyfeiriad i awdurdod cyfrifol, wedi ei gyfansoddi ar gyfer ardal sy'n gyfan gwbl o fewn Lloegr neu'n gweithredu ar gyfer y cyfryw ardal yn unig.