xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Rhaid i'r partneriaid iechyd meddwl lleol ar gyfer ardal awdurdod lleol gymryd pob cam rhesymol i gytuno ar gynllun–
(a)sy'n dynodi'r driniaeth sydd i fod ar gael ar gyfer yr ardal honno at ddibenion y Rhan hon (“triniaeth iechyd meddwl sylfaenol leol”); a
(b)i sicrhau darpariaeth ar gyfer yr ardal honno o wasanaethau, gan gynnwys triniaeth iechyd meddwl sylfaenol leol, a ddisgrifir yn adran 5 (“gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol”).
(2)Os cytunir ar gynllun, rhaid i'r partneriaid sicrhau ei fod yn cael ei gofnodi'n ysgrifenedig.
[F1(2A)Caiff cynllun ei gofnodi drwy ei gynnwys o fewn cynllun llesiant lleol a gyhoeddir o dan adran 39 [F2, 44(5) neu 47(6) neu (11)] o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2) gan fwrdd gwasanaethau cyhoeddus y mae pob un o’r partneriaid yn aelodau ohono.]
(3)Rhaid i gynllun ddynodi i ba raddau y mae pob un o'r partneriaid i fod yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol.
(4)Caiff cynllun ddarparu–
(a)bod un o'r partneriaid i fod yn gyfrifol am ddarparu'r holl wasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol ar gyfer ardal yr awdurdod lleol;
(b)bod asesiadau iechyd meddwl sylfaenol i fod ar gael mewn cysylltiad â'r holl unigolion a ddisgrifir yn adran 8(1) neu â disgrifiadau neilltuol ohonynt;
(c)mae asesiadau iechyd meddwl sylfaenol i'w cynnal mewn cysylltiad â chategorïau neilltuol o unigolyn na fyddai ganddynt fel arall hawl i asesiad.
(5)Os yw cynllun yn gwneud darpariaeth o dan is-adran (4)(b), rhaid iddo hefyd ddarparu i staff o ddisgrifiadau neilltuol sy'n gweithio ar wasanaethau iechyd meddwl eilaidd allu atgyfeirio unigolyn y cyfeirir ato yn yr is-adran honno am asesiad iechyd meddwl sylfaenol.
(6)Caiff y partneriaid wneud newidiadau i gynllun (gan gynnwys cynllun a benderfynwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 4 a chynllun y gwnaed newidiadau iddo eisoes) os ydynt yn cytuno ar y newidiadau.
(7)Os gwneir newidiadau i gynllun o dan is-adran (6), rhaid i'r partneriaid sicrhau bod y newidiadau'n cael eu cofnodi'n ysgrifenedig.
Diwygiadau Testunol
F1A. 2(2A) wedi ei fewnosod (1.4.2016) gan Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (anaw 2), a. 56(2), Atod. 4 para. 29; O.S. 2016/86, ergl. 3
F2Geiriau yn a. 2(2A) wedi eu hamnewid (20.3.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(3)(q), Atod. 14 para. 7
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 2 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 55(3)
I2A. 2 mewn grym ar 8.5.2012 gan O.S. 2011/3046, ergl. 4(b) (ynghyd ag ergl. 5)
(1)Onid yw adran 4(1)(a) yn gymwys, rhaid i'r partneriaid iechyd meddwl lleol ar gyfer ardal awdurdod lleol ddarparu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol yn unol â'r canlynol–
(a)cynllun ar gyfer eu hardal a gytunwyd o dan adran 2; neu
(b)cynllun ar gyfer eu hardal a benderfynwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 4.
(2)Os gwnaed newidiadau i gynllun o dan adran 2(6) neu 4(2) rhaid i'r gwasanaethau gael eu darparu yn unol â'r cynllun y gwnaed newidiadau iddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 3 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 55(3)
I4A. 3 mewn grym ar 1.10.2012 gan O.S. 2012/2411, ergl. 2(a)
(1)Os na fydd y partneriaid iechyd meddwl lleol ar gyfer ardal yn gallu cytuno ar gynllun o dan adran 2–
(a)tra nad oes cytundeb, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol benderfynu pa driniaeth iechyd meddwl sylfaenol leol sydd i fod ar gael yn ardal yr awdurdod lleol o dan sylw a bod yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol ar gyfer yr ardal honno;
(b)rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu Gweinidogion Cymru na ellir dod i gytundeb;
(c)caiff Gweinidogion Cymru benderfynu ar gynllun ac, os ydynt yn gwneud hynny, rhaid iddynt ei gofnodi'n ysgrifenedig.
(2)Os bydd un partner yn dymuno gwneud newidiadau i gynllun, ond nad yw'r llall yn dymuno hynny, caiff Gweinidogion Cymru, os gwneir cais iddynt gan y naill bartner neu'r llall, wneud newidiadau i'r cynllun i'r graddau y gwêl Gweinidogion Cymru'n dda eu gwneud.
(3)Os bydd Gweinidogion Cymru'n gwneud newidiadau i gynllun o dan is-adran (2), rhaid iddynt gofnodi'r newidiadau'n ysgrifenedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 4 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 55(3)
I6A. 4 mewn grym ar 8.5.2012 gan O.S. 2011/3046, ergl. 4(c) (ynghyd ag ergl. 5)
(1)Dyma yw gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol–
(a)cynnal asesiadau iechyd meddwl sylfaenol yn unol â darpariaethau canlynol y Rhan hon;
(b)darparu ar gyfer unigolyn, yn dilyn asesiad iechyd meddwl sylfaenol, driniaeth iechyd meddwl sylfaenol leol a ddynodir gan yr asesiad yn driniaeth a allai wella iechyd meddwl yr unigolyn neu atal dirywiad ynddo;
(c)gwneud atgyfeiriadau fel a ddisgrifir yn adran 10, yn dilyn asesiad iechyd meddwl sylfaenol, ynghylch gwasanaethau eraill y gallai eu darparu wella iechyd meddwl yr unigolyn a aseswyd neu atal dirywiad ynddo;
(d)darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth arall i ddarparwyr iechyd sylfaenol i fodloni gofynion rhesymol y darparwyr am y cyfryw wybodaeth, cyngor a chymorth arall at ddibenion gwella'r gwasanaethau mewn perthynas ag iechyd meddwl y maent yn eu darparu neu'n eu trefnu;
(e)darparu gwybodaeth a chyngor ar gyfer cleifion a'u gofalwyr ynghylch y gwasanaethau sydd ar gael iddynt i fodloni eu gofynion rhesymol am y cyfryw wybodaeth a chyngor.
(2)Yn is-adran (1)(e)–
ystyr “cleifion” (“patients”) yw unigolion y mae ganddynt, neu y gall fod ganddynt, anhwylder meddwl;
ystyr “gofalwyr” (“carers”) yw aelodau o deuluoedd cleifion, a ffrindiau cleifion, sy'n ymwneud â'u gofal ac yn achos claf sy'n blentyn mae'n cynnwys rhiant maeth awdurdod lleol y plentyn (o fewn ystyr [F3adran 105(1)] o Ddeddf Plant 1989);
ystyr “gwasanaethau” (“services”) yw–
gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd;
gwasanaethau gofal cymunedol (nad ydynt yn wasanaethau iechyd meddwl eilaidd);
gwasanaethau a ddarperir o dan [F4adrannau 37 i 39 a Rhan 6 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014] (nad ydynt yn wasanaethau iechyd meddwl eilaidd);
gwasanaethau tai neu wasanaethau llesiant; a
addysg neu hyfforddiant a all fod yn llesol i iechyd meddwl claf.
Diwygiadau Testunol
F3Geiriau yn a. 5(2) wedi eu hamnewid (6.4.2016) gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhl. 281(a)
F4Geiriau yn a. 5(2) wedi eu hamnewid (6.4.2016) gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhl. 281(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I7A. 5 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 55(3)
I8A. 5 mewn grym ar 8.5.2012 gan O.S. 2011/3046, ergl. 4(d) (ynghyd ag ergl. 5)