RHAN 2CYDGYSYLLTU A CHYNLLUNIO GOFAL AR GYFER DEFNYDDWYR GWASANAETHAU IECHYD MEDDWL EILAIDD
Diffiniadau
I112Ystyr “claf perthnasol”
1
At ddibenion y Rhan hon, mae unigolyn yn glaf perthnasol os yw darparydd gwasanaeth iechyd meddwl yn gyfrifol am ddarparu unrhyw wasanaeth iechyd meddwl eilaidd i'r unigolyn.
2
Mae unigolyn nad yw'n dod o fewn is-adran (1) hefyd yn glaf perthnasol os–
a
yw'r unigolyn o dan warcheidiaeth awdurdod lleol yng Nghymru; neu
b
mae darparydd gwasanaeth iechyd meddwl wedi penderfynu y byddai gwasanaeth iechyd meddwl eilaidd yn cael ei ddarparu i'r unigolyn pe byddai'r unigolyn yn cydweithredu â'r ddarpariaeth honno.
I213Ystyr “darparydd gwasanaeth iechyd meddwl”
1
At ddibenion y Rhan hon, dyma'r darparwyr gwasanaethau iechyd meddwl–
a
Gweinidogion Cymru;
b
Bwrdd Iechyd Lleol;
c
awdurdod lleol yng Nghymru.
2
Ond nid yw Gweinidogion Cymru i'w trin fel rhai sy'n gyfrifol am ddarparu unrhyw wasanaeth a gaiff ei ddarparu wrth arfer swyddogaeth y mae cyfarwyddyd a roddir o dan adran 12(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 yn ymwneud â hi.