Search Legislation

Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Croes Bennawd: Diffiniadau

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010, Croes Bennawd: Diffiniadau. Help about Changes to Legislation

DiffiniadauLL+C

12Ystyr “claf perthnasol”LL+C

(1)At ddibenion y Rhan hon, mae unigolyn yn glaf perthnasol os yw darparydd gwasanaeth iechyd meddwl yn gyfrifol am ddarparu unrhyw wasanaeth iechyd meddwl eilaidd i'r unigolyn.

(2)Mae unigolyn nad yw'n dod o fewn is-adran (1) hefyd yn glaf perthnasol os–

(a)yw'r unigolyn o dan warcheidiaeth awdurdod lleol yng Nghymru; neu

(b)mae darparydd gwasanaeth iechyd meddwl wedi penderfynu y byddai gwasanaeth iechyd meddwl eilaidd yn cael ei ddarparu i'r unigolyn pe byddai'r unigolyn yn cydweithredu â'r ddarpariaeth honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 12 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 55(3)

I2A. 12 mewn grym ar 6.6.2012 gan O.S. 2012/1397, ergl. 2(a)

13Ystyr “darparydd gwasanaeth iechyd meddwl”LL+C

(1)At ddibenion y Rhan hon, dyma'r darparwyr gwasanaethau iechyd meddwl–

(a)Gweinidogion Cymru;

(b)Bwrdd Iechyd Lleol;

(c)awdurdod lleol yng Nghymru.

(2)Ond nid yw Gweinidogion Cymru i'w trin fel rhai sy'n gyfrifol am ddarparu unrhyw wasanaeth a gaiff ei ddarparu wrth arfer swyddogaeth y mae cyfarwyddyd a roddir o dan adran 12(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 yn ymwneud â hi.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 13 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 55(3)

I4A. 13 mewn grym ar 6.6.2012 gan O.S. 2012/1397, ergl. 2(b)

Back to top

Options/Help