xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3LL+CASESIADAU AR DDEFNYDDWYR BLAENOROL O WASANAETHAU IECHYD MEDDWL EILAIDD

Trefniadau asesiadLL+C

19Trefniadau ar gyfer asesu defnyddwyr blaenorol o wasanaethau iechyd meddwl eilaiddLL+C

(1)Rhaid i bartneriaid iechyd meddwl lleol ar gyfer ardal awdurdod lleol gymryd pob cam rhesymol i gytuno ar drefniadau ar gyfer–

(a)cynnal asesiadau yn unol ag adrannau 25 a 26 ar gyfer oedolion sydd fel arfer yn preswylio yn yr ardal honno a chanddynt hawl i asesiadau o'r fath o dan adran 22; a

(b)gwneud atgyfeiriadau a ddisgrifir yn adran 28(1) yn dilyn asesiadau o'r fath.

(2)Os cytunwyd ar drefniadau, rhaid i'r partneriaid sicrhau bod y trefniadau'n cael eu cofnodi'n ysgrifenedig.

(3)Rhaid i'r trefniadau ddynodi i ba raddau y mae pob partner i gynnal yr asesiadau hynny a gwneud yr atgyfeiriadau hynny.

(4)Caiff y trefniadau ddarparu–

(a)bod un o'r partneriaid i ddarparu pob asesiad a gwneud pob atgyfeiriad;

(b)bod partneriaid gwahanol yn ymgymryd â gwahanol agweddau ar asesiad, a gwahanol atgyfeiriadau yn dilyn asesiad.

(5)Caiff y partneriaid newid eu trefniadau (gan gynnwys trefniadau a benderfynwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 21 a threfniadau sydd eisoes wedi eu newid) os ydynt yn cytuno ar y newidiadau.

(6)Os newidir trefniadau o dan is-adran (5), rhaid i'r partneriaid sicrhau bod y newidiadau'n cael eu cofnodi'n ysgrifenedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 19 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 55(3)

I2A. 19 mewn grym ar 6.6.2012 gan O.S. 2012/1397, ergl. 2(h)

20Dyletswydd i gynnal asesiadauLL+C

(1)Oni fydd adran 21(1)(a) yn gymwys, rhaid i'r partneriaid iechyd meddwl lleol ar gyfer ardal awdurdod lleol gynnal asesiadau a gwneud atgyfeiriadau yn unol â'r trefniadau a–

(a)gytunwyd ar gyfer eu hardal o dan adran 19; neu

(b)benderfynwyd ar gyfer eu hardal gan Weinidogion Cymru o dan adran 21.

(2)Os yw'r trefniadau wedi eu newid o dan adran 19(5) neu 21(2), rhaid cynnal asesiadau a gwneud atgyfeiriadau yn unol â'r trefniadau fel y'u newidiwyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 20 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 55(3)

I4A. 20 mewn grym ar 6.6.2012 gan O.S. 2012/1397, ergl. 2(i)

21Methiant i gytuno ar drefniadauLL+C

(1)Os na fydd y partneriaid yn gallu cytuno ar drefniadau o dan adran 19–

(a)tra na bo cytundeb, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol gynnal yr asesiadau y cyfeirir atynt yn adran 19(1)(a) a gwneud yr atgyfeiriadau y cyfeirir atynt yn adran 19(1)(b);

(b)rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu Gweinidogion Cymru na ellir dod i gytundeb;

(c)caiff Gweinidogion Cymru benderfynu ar y trefniadau ac, os byddant yn gwneud hynny, rhaid iddynt eu cofnodi'n ysgrifenedig.

(2)Os bydd un partner yn dymuno newid y trefniadau, ond nad yw'r llall yn dymuno gwneud, caiff Gweinidogion Cymru, os gwneir cais i Weinidogion Cymru gan y naill bartner neu'r llall, newid y trefniadau i'r graddau y gwêl Gweinidogion Cymru yn dda.

(3)Os bydd Gweinidogion Cymru'n newid trefniadau o dan is-adran (2), rhaid iddynt gofnodi'r newidiadau'n ysgrifenedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 21 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 55(3)

I6A. 21 mewn grym ar 6.6.2012 gan O.S. 2012/1397, ergl. 2(j)