RHAN 3ASESIADAU AR DDEFNYDDWYR BLAENOROL O WASANAETHAU IECHYD MEDDWL EILAIDD
Trefniadau asesiad
I1I1319Trefniadau ar gyfer asesu defnyddwyr blaenorol o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd
1
Rhaid i bartneriaid iechyd meddwl lleol ar gyfer ardal awdurdod lleol gymryd pob cam rhesymol i gytuno ar drefniadau ar gyfer–
a
cynnal asesiadau yn unol ag adrannau 25 a 26 ar gyfer oedolion sydd fel arfer yn preswylio yn yr ardal honno a chanddynt hawl i asesiadau o'r fath o dan adran 22; a
b
gwneud atgyfeiriadau a ddisgrifir yn adran 28(1) yn dilyn asesiadau o'r fath.
2
Os cytunwyd ar drefniadau, rhaid i'r partneriaid sicrhau bod y trefniadau'n cael eu cofnodi'n ysgrifenedig.
3
Rhaid i'r trefniadau ddynodi i ba raddau y mae pob partner i gynnal yr asesiadau hynny a gwneud yr atgyfeiriadau hynny.
4
Caiff y trefniadau ddarparu–
a
bod un o'r partneriaid i ddarparu pob asesiad a gwneud pob atgyfeiriad;
b
bod partneriaid gwahanol yn ymgymryd â gwahanol agweddau ar asesiad, a gwahanol atgyfeiriadau yn dilyn asesiad.
5
Caiff y partneriaid newid eu trefniadau (gan gynnwys trefniadau a benderfynwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 21 a threfniadau sydd eisoes wedi eu newid) os ydynt yn cytuno ar y newidiadau.
6
Os newidir trefniadau o dan is-adran (5), rhaid i'r partneriaid sicrhau bod y newidiadau'n cael eu cofnodi'n ysgrifenedig.
I2I1420Dyletswydd i gynnal asesiadau
1
Oni fydd adran 21(1)(a) yn gymwys, rhaid i'r partneriaid iechyd meddwl lleol ar gyfer ardal awdurdod lleol gynnal asesiadau a gwneud atgyfeiriadau yn unol â'r trefniadau a–
a
gytunwyd ar gyfer eu hardal o dan adran 19; neu
b
benderfynwyd ar gyfer eu hardal gan Weinidogion Cymru o dan adran 21.
2
Os yw'r trefniadau wedi eu newid o dan adran 19(5) neu 21(2), rhaid cynnal asesiadau a gwneud atgyfeiriadau yn unol â'r trefniadau fel y'u newidiwyd.
I3I1521Methiant i gytuno ar drefniadau
1
Os na fydd y partneriaid yn gallu cytuno ar drefniadau o dan adran 19–
a
tra na bo cytundeb, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol gynnal yr asesiadau y cyfeirir atynt yn adran 19(1)(a) a gwneud yr atgyfeiriadau y cyfeirir atynt yn adran 19(1)(b);
b
rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu Gweinidogion Cymru na ellir dod i gytundeb;
c
caiff Gweinidogion Cymru benderfynu ar y trefniadau ac, os byddant yn gwneud hynny, rhaid iddynt eu cofnodi'n ysgrifenedig.
2
Os bydd un partner yn dymuno newid y trefniadau, ond nad yw'r llall yn dymuno gwneud, caiff Gweinidogion Cymru, os gwneir cais i Weinidogion Cymru gan y naill bartner neu'r llall, newid y trefniadau i'r graddau y gwêl Gweinidogion Cymru yn dda.
3
Os bydd Gweinidogion Cymru'n newid trefniadau o dan is-adran (2), rhaid iddynt gofnodi'r newidiadau'n ysgrifenedig.
Hawliau asesu
I4I1622Hawl i asesiad
1
Mae gan oedolyn hawl i asesiad fel a ddisgrifir yn adran 25–
a
os yw'r oedolyn yn gwneud cais i'r naill neu'r llall o'r partneriaid iechyd meddwl lleol ar gyfer ardal yr awdurdod lleol y mae'r oedolyn fel arfer yn preswylio ynddi i gynnal asesiad o'r fath;
b
os yw'r oedolyn wedi'i ryddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd (p'un a oedd y gwasanaethau yn gyfrifoldeb partner iechyd meddwl lleol y gwnaed y cais am asesiad iddo ai peidio);
c
os gwneir y cais o fewn y cyfnod rhyddhau perthnasol (gweler adran 23); a
d
os nad yw'r partner iechyd meddwl lleol y gwneir y cais iddo yn ystyried y cais yn flinderus neu'n wacsaw.
2
At ddibenion is-adran (1)(b), mae oedolyn wedi'i ryddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd os darparwyd gwasanaeth neu wasanaethau iechyd meddwl eilaidd i'r oedolyn ond na ddarperir iddo bellach, am ba reswm bynnag, unrhyw wasanaeth iechyd meddwl eilaidd.
3
Mae'r cyfeiriad at ryddhau oedolyn o wasanaeth iechyd meddwl eilaidd yn cynnwys rhyddhau a ddigwyddodd pan oedd yr oedolyn yn blentyn.
I5I1723Asesiadau: y cyfnod rhyddhau perthnasol
1
Mae'r cyfnod rhyddhau perthnasol mewn perthynas ag oedolyn–
a
yn dechrau ar y dyddiad pan gafodd yr oedolyn ei ryddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd (o fewn ystyr adran 22(2)); a
b
yn gorffen pan fo'r cyfnod o amser a bennir mewn rheoliadau a wneir at ddibenion yr adran hon gan Weinidogion Cymru wedi dod i ben.
2
Mae'r cyfnod rhyddhau perthnasol hefyd yn dod i ben, cyn i'r cyfnod o amser y cyfeirir ati yn is-adran (1)(b) ddod i ben, os bydd achlysur a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru yn digwydd.
I6I1824Darparu gwybodaeth am asesiadau
1
Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn rhyddhau oedolyn o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd, rhaid i'r Bwrdd roi gwybodaeth ysgrifenedig i'r oedolyn ynghylch hawl i asesiad o dan y Rhan hon os nad yw unrhyw awdurdod lleol, ar ddyddiad rhyddhau'r oedolyn, yn darparu gwasanaeth iechyd meddwl eilaidd iddo.
2
Pan fo awdurdod lleol yn rhyddhau oedolyn o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd, rhaid i'r awdurdod roi gwybodaeth ysgrifenedig i'r oedolyn ynghylch hawl i asesiad o dan y Rhan hon os nad oes unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol, ar ddyddiad yr asesiad, yn darparu gwasanaeth iechyd meddwl eilaidd ar gyfer yr oedolyn.
3
Pan fo'r cyfnod rhyddhau perthnasol yn cychwyn pan fo unigolyn yn blentyn ac yn dod i ben pan fo'r unigolyn hwnnw'n dod yn oedolyn, mae'r Bwrdd neu'r awdurdod o dan yr un ddyletswydd i roi gwybodaeth i'r unigolyn hwnnw ynghylch ei hawl i asesiad ag y mae i roi'r cyfryw wybodaeth i oedolyn o dan is-adrannau (1) a (2).
4
At ddibenion yr adran hon, mae Bwrdd neu awdurdod yn rhyddhau unigolyn o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd pan fydd yn gweithredu penderfyniad nad oes angen i'r Bwrdd neu'r awdurdod ddarparu mwyach unrhyw wasanaeth o'r fath ar gyfer yr unigolyn.
Y broses asesu
I7I1925Diben asesu
Mae asesiad o dan y Rhan hon yn ddadansoddiad o iechyd meddwl oedolyn sy'n dynodi–
a
y gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd (os oes rhai) a allai wella iechyd meddwl y person sy'n cael ei asesu neu atal dirywiad ynddo;
b
y gwasanaethau gofal cymunedol, nad ydynt yn wasanaethau iechyd meddwl eilaidd, (os oes rhai) a allai wella iechyd meddwl y person sy'n cael ei asesu neu atal dirywiad ynddo; ac
c
y gwasanaethau tai neu'r gwasanaethau llesiant (os oes rhai) a allai wella iechyd meddwl y person sy'n cael ei asesu neu atal dirywiad ynddo.
I8I2026Asesiadau: darpariaeth bellach
1
Rhaid cynnal asesiad o dan y Rhan hon cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i'r cais y cyfeirir ato yn adran 22(1) gael ei wneud.
2
Rhaid i bartneriaid iechyd meddwl lleol sicrhau–
a
bod asesiad yn arwain at un adroddiad ysgrifenedig sy'n cofnodi a yw'r asesiad wedi dynodi unrhyw wasanaethau'n unol ag adran 25; a
b
bod copi o'r adroddiad hwnnw yn cael ei roi i'r oedolyn a gafodd ei asesu o fewn y cyfryw gyfnod yn dilyn cwblhau'r asesiad ag a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.
3
Os un partner iechyd meddwl lleol sydd wedi cynnal asesiad o dan y Rhan hon, rhaid i'r partner, os yw o'r farn ei bod yn briodol iddo wneud hynny, roi copi o'r adroddiad i'r partner arall cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol iddo wneud hynny.
I9I2127Camau yn dilyn asesiad
1
Mae is-adran (2) yn gymwys os yw asesiad o dan adran 25(a) neu (b) wedi dynodi gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd neu wasanaethau gofal cymunedol (nad ydynt yn wasanaethau iechyd meddwl eilaidd) a allai helpu i wella iechyd meddwl oedolyn neu atal dirywiad ynddo.
2
Os un o'r partneriaid iechyd meddwl lleol fyddai'r awdurdod cyfrifol mewn perthynas ag unrhyw wasanaeth o'r fath, rhaid i'r partner hwnnw benderfynu p'un a oes galw am ddarparu'r gwasanaeth hwnnw ai peidio.
3
Yn yr adran hon ystyr “awdurdod cyfrifol” yw'r awdurdod a fyddai'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau pe bai penderfyniad yn cael ei wneud i'w darparu.
I10I2228Atgyfeiriadau sy'n ymwneud â gwasanaethau tai neu wasanaethau llesiant
1
Onid yw is-adran (2) yn gymwys, pan fo asesiad iechyd meddwl eilaidd o dan adran 25(c) wedi dynodi gwasanaeth tai neu wasanaeth llesiant a allai helpu i wella iechyd meddwl oedolyn neu atal dirywiad ynddo, rhaid i'r partner ofyn i'r darparydd gwasanaeth cyfrifol ystyried a fydd yn darparu'r gwasanaeth i'r oedolyn neu, os nad yw hynny'n briodol, a fydd yn gwahodd yr oedolyn i wneud cais am y gwasanaeth.
2
Os y partner iechyd meddwl awdurdod lleol fyddai'r darparydd gwasanaeth cyfrifol mewn perthynas â'r gwasanaeth tai hwnnw neu'r gwasanaeth llesiant hwnnw, rhaid i'r awdurdod benderfynu a oes galw am ddarparu'r gwasanaeth neu, os nad yw hynny'n briodol, benderfynu a fydd yn gwahodd yr oedolyn i wneud cais am y gwasanaeth.
3
Yn is-adrannau (1) a (2), ystyr “darparydd gwasanaeth cyfrifol” yw person sy'n ymgymryd â gweithgareddau yng Nghymru a fyddai'n darparu'r gwasanaeth pe bai penderfyniad yn cael ei wneud i'w ddarparu.
Atodol
I11I2329Penderfynu man preswylio arferol
1
At ddibenion y Rhan hon, mae unrhyw gwestiwn o ran ardal yr awdurdod lleol y mae oedolyn fel arfer yn preswylio ynddi i'w benderfynu yn unol â darpariaeth mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.
2
Mae'r ddarpariaeth y caniateir iddi gael ei gwneud mewn rheoliadau o dan is-adran (1) yn cynnwys darpariaeth (ond nid yw wedi ei chyfyngu iddi)–
a
sy'n rhoi pŵer i benderfynu ar ardal yr awdurdod lleol y mae oedolyn fel arfer yn preswylio ynddi;
b
ar gyfer tybio bod oedolyn fel arfer yn preswylio mewn ardal.
I12I2430Cymhwysiad y Rhan hon i bersonau o dan warcheidiaeth awdurdod lleol
1
Mae'r adran hon yn gymwys i unigolyn–
a
sydd wedi peidio â bod o dan warcheidiaeth awdurdod lleol, a
b
wrth beidio â bod felly, na ddarparwyd iddo wasanaeth iechyd meddwl eilaidd.
2
At ddibenion y Rhan hon, mae'r unigolyn i'w drin fel un a gafodd ei ryddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd ar y dyddiad pan beidiodd yr unigolyn â bod o dan warcheidiaeth yr awdurdod lleol.