RHAN 6AMRYWIOL AC ATODOL

I149Ystyr gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd

1

Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol yr adran hon, at ddibenion y Mesur hwn, gwasanaeth iechyd meddwl eilaidd yw–

a

gwasanaeth ar ffurf triniaeth i anhwylder meddwl unigolyn a ddarperir o dan Ran 1 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

b

gwasanaeth a ddarperir o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983;

c

gwasanaeth gofal cymunedol ei brif ddiben yw diwallu angen sy'n ymwneud ag iechyd meddwl oedolyn;

d

gwasanaeth a ddarperir i blentyn o dan Ran III o Ddeddf Plant 1989 a'i brif ddiben yw bodloni angen sy'n ymwneud ag iechyd meddwl y plentyn hwnnw.

2

At ddibenion is-adran (1), nid yw gwasanaeth i'w ystyried fel un a ddarperir o dan Ran 1 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 os darperir ef–

a

o dan adran 41 o'r Ddeddf honno;

b

o dan gontract gwasanaethau meddygol cyffredinol yr ymrwymwyd ynddo gan Fwrdd Iechyd Lleol o dan adran 42 o'r Ddeddf honno;

c

o dan drefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol yr ymrwymwyd ynddynt gan Fwrdd Iechyd Lleol o dan adran 50 o'r Ddeddf honno;

d

o dan Atodlen 1 i'r Ddeddf honno.

3

Mae gwasanaeth ar ffurf triniaeth ar gyfer anhwylder meddwl unigolyn yn cynnwys gwasanaeth sydd, ym marn y person sy'n darparu neu sy'n gwneud trefniadau ar gyfer darparu'r gwasanaeth, yn wasanaeth y bwriedir iddo drin yr anhwylder meddwl yr amheuir ei fod gan yr unigolyn sy'n cael y gwasanaeth.

4

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn–

a

pennu gwasanaethau eraill sydd i'w hystyried yn wasanaethau iechyd meddwl eilaidd at ddibenion unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau'r Mesur hwn;

b

darparu bod gwasanaethau a fyddai fel arall yn cael eu hystyried yn wasanaethau iechyd meddwl eilaidd i beidio a chael eu hystyried felly at ddibenion unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau'r Mesur hwn.

Annotations:
Commencement Information
I1

A. 49 mewn grym ar 15.2.2011, gweler a. 55(1)(2)(a)

I250Ystyr gwasanaethau tai a gwasanaethau llesiant

1

At ddibenion y Mesur hwn, ystyr “gwasanaethau tai neu wasanaethau llesiant” yw–

a

dyroddi llety gan awdurdod tai lleol o dan Ran 6 o Ddeddf Tai 1996 (dyroddi tai'n llety) neu sicrhau llety gan y cyfryw awdurdod o dan Ran 7 o'r Ddeddf honno (digartrefedd);

b

unrhyw wasanaethau yn ymwneud â llesiant (gan gynnwys tai) a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru (p'un a ddarperir hwy gan neu o dan drefniadau a wneir gydag awdurdod cyhoeddus);

c

darparu gwybodaeth neu gyngor ynghylch unrhyw wasanaeth sy'n dod o fewn paragraff (a) neu (b) uchod (p'un ai wedi ei ddarparu gan neu o dan drefniadau a wneir gydag awdurdod cyhoeddus).

2

Mae'r cyfeiriadau i wasanaethau yn is-adran (1)(b) yn cynnwys taliadau, grantiau a benthyciadau.

Annotations:
Commencement Information
I2

A. 50 mewn grym ar 15.2.2011, gweler a. 55(1)(2)(a)

I351Dehongli'n gyffredinol

1

Yn y Mesur hwn–

  • ystyr “ardal awdurdod lleol” (“local authority area”) yw prif ardal yng Nghymru o fewn ystyr adran 20 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972;

  • “asesiad iechyd meddwl sylfaenol” (“primary mental health assessment”) yw asesiad o dan adran 9;

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol;

  • ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol” (“Local Health Board”) yw Bwrdd a sefydlir o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

  • ystyr “claf cofrestredig” (“registered patient”)–

    1. a

      mewn perthynas â chontractiwr o dan gontract gwasanaethau meddygol cyffredinol yr ymrwymwyd ynddo o dan adran 42 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, yw unigolyn–

      1. i

        y mae'r contractiwr wedi ei dderbyn yn glaf o dan reoliadau a wneir o dan adran 47(3)(a) o'r Ddeddf honno, a

      2. ii

        nad yw'r contractiwr wedi terfynu cyfrifoldeb mewn cysylltiad ag ef o dan reoliadau a wneir o dan adran 47(3)(c) o'r Ddeddf honno;

    2. b

      mewn perthynas â pherson y mae trefniadau wedi eu gwneud gydag ef o dan adran 50 o'r Ddeddf honno, yw unigolyn–

      1. i

        y mae'r person wedi ei dderbyn yn glaf o dan reoliadau a wneir o dan adran 52(8)(a) o'r Ddeddf honno, a

      2. ii

        nad yw'r contractiwr wedi terfynu cyfrifoldeb mewn cysylltiad ag ef o dan reoliadau a wneir o dan adran 52(8)(c) o'r Ddeddf honno;

    3. c

      mewn perthynas ag ymarferydd meddygol cofrestredig a gyflogir gan Fwrdd Iechyd Lleol at ddibenion adran 41 o'r Ddeddf honno, yw unigolyn sy'n dod o fewn categori a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru;

  • ystyr “darparydd gofal sylfaenol” (“primary care provider”) yw contractiwr o dan gontract gwasanaethau meddygol cyffredinol yr ymrwymwyd ynddo o dan adran 42 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, person y mae trefniadau wedi eu gwneud gydag ef o dan adran 50 o'r Ddeddf honno ymarferydd meddygol cofrestredig a gyflogir gan Fwrdd Iechyd Lleol at ddibenion adran 41 o'r Ddeddf honno, ac ymarferydd meddygol cofrestredig sy'n darparu gwasanaethau i garcharorion o dan drefniadau a wnaed rhwng yr ymarferydd meddygol cofrestredig a pherson sy'n gyfrifol am ddarparu neu redeg carchar wedi ei gontractio allan (o fewn ystyr adran 84(4) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1991) yng Nghymru;

  • mae i “gwasanaethau gofal cymunedol” yr ystyr a roddir i “community care services” yn adran 46 o Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990;

  • mae i “gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd” (“secondary mental health services”) yr ystyr a roddir gan adran 49;

  • rhaid dehongli “gwasanaethau tai neu wasanaethau llesiant” (“housing or well-being”) yn unol ag adran 50;

  • ystyr “oedolyn” (“adult”) yw person 18 oed neu hŵn;

  • rhaid dehongli “partneriaid iechyd meddwl lleol” (“local mental health partners”), ac ymadroddion cysylltiedig, yn unol ag adran 1;

  • ystyr “plentyn”(“child”) yw person nad yw wedi cyrraedd 18 mlwydd oed;

  • mae “swyddogaethau” (“functions”) yn cynnwys pwerau a dyletswyddau;

  • ystyr “triniaeth” (“treatment”) yw triniaeth ar gyfer anhwylder meddwl o fewn ystyr maes 9 o Ran 1 o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006;

  • ystyr “triniaeth iechyd meddwl sylfaenol leol” (“local primary mental health treatment”), mewn perthynas ag ardal awdurdod lleol, yw'r driniaeth y cyfeirir ati yn y cynllun ar gyfer yr ardal y cytunwyd arno o dan adran 2 neu a benderfynwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 4(1)(c) neu, os nad oes cynllun, y driniaeth y mae Bwrdd Iechyd Lleol wedi penderfynu sicrhau ei bod ar gael ar gyfer yr ardal o dan adran 4(1)(a).

2

At ddibenion y Mesur hwn, mae unigolyn dan warcheidiaeth awdurdod lleol yng Nghymru os oes gan awdurdod lleol, mewn perthynas â'r unigolyn, y pwerau sydd yn adran 8(1) o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.

3

Yn y Mesur hwn mae unrhyw gyfeiriad (sut bynnag y'i mynegir) at wasanaeth a ddarperir gan berson yn cynnwys cyfeiriad at wasanaeth a ddarperir o dan drefniadau a wnaed gan y person.

4

Hyd nes y daw adran 8(1) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008 i rym, mae pob cyfeiriad at adran 22C(12) o Ddeddf Plant 1989 i'w ddarllen fel cyfeiriad at adran 23(3) o Ddeddf Plant 1989.

5

Mae cyfeiriadau yn y Mesur hwn at gydgysylltydd gofal i'w dehongli fel cyfeiriadau at gydgysylltydd gofal sy'n gweithredu ar ran y darparydd gwasanaeth iechyd meddwl a oedd yn gyfrifol am benodi'r unigolyn fel cydgysylltydd gofal o dan adran 14(1) neu (3), oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall.

Annotations:
Commencement Information
I3

A. 51 mewn grym ar 15.2.2011, gweler a. 55(1)(2)(a)

I452Gorchmynion a rheoliadau

1

Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn arferadwy drwy offeryn statudol.

2

Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn cynnwys pŵer–

a

i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion neu ddosbarthau o achosion gwahanol, ardaloedd gwahanol neu at ddibenion gwahanol;

b

i wneud darpariaeth yn gyffredinol neu'n ddarostyngedig i esemptiadau neu eithriadau penodol neu'n unig mewn perthynas ag achosion neu ddosbarthau penodol o achos;

c

i wneud y cyfryw ddarpariaeth gysylltiedig, atodol, darfodol, canlyniadol, trosiannol neu arbed ag y gwêl Gweinidogion Cymru'n dda ei gwneud.

3

Mae unrhyw offeryn statudol sy'n cynnwys rheoliadau a wneir o dan y Mesur hwn neu orchymyn o dan adran 53(3)(b) yn ddarostyngedig i'w ddirymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

4

Nid yw is-adran (3) yn gymwys i reoliadau a gorchmynion y mae is-adrannau (5) a (6) yn gymwys iddynt.

5

Rhaid peidio â gwneud offeryn statudol sy'n cynnwys (yn unigol neu ynghyd a darpariaeth arall)–

a

gorchymyn o dan adran 49(4) neu adran 53(3)(a); neu

b

rheoliadau o dan adran 7(6)(a), 23(1)(b), 23(2), 45 neu 46,

onid oes drafft o'r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a'i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

6

Rhaid peidio a gwneud offeryn statudol sy'n cynnwys (yn unigol neu ynghyd â darpariaethau eraill) y rheoliadau cyntaf i gael eu gwneud o dan adran 18(1)(c) neu 18(8) onid oes drafft o'r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a'i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

Annotations:
Commencement Information
I4

A. 52 mewn grym ar 15.2.2011, gweler a. 55(1)(2)(a)

I553Diwygiadau canlyniadol etc

I9I111

Mae gan Atodlen 1 effaith i wneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol mewn cysylltiad â Rhan 4.

I52

Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn wneud y darpariaethau hynny sy'n briodol ym marn Gweinidogion Cymru at ddibenion cyffredinol y Mesur hwn, neu at unrhyw ddibenion neilltuol yn y Mesur hwn, neu o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth a wneir gan y Mesur hwn neu gan reoliadau o dan adrannau 45 a 46 neu er mwyn rhoi llawn effaith i'r darpariaethau hynny.

I53

Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud mewn gorchymyn o dan is-adran (2) yn cynnwys darpariaeth i ddiwygio, diddymu, dirymu neu addasu cymhwyso unrhyw ddarpariaeth mewn–

a

unrhyw Deddf Seneddol neu unrhyw un o Ddeddfau neu Fesurau Cynulliad Cenedlaethol Cymru (gan gynnwys y Mesur hwn); a

b

is-ddeddfwriaeth.

I54

Yn yr adran hon mae i'r term “is-ddeddfwriaeth” yr ystyr sydd i “subordinate legislation” yn Neddf Dehongli 1978.

I6I10I1254Diddymiadau

Mae gan Atodlen 2 effaith i wneud diddymiadau mewn cysylltiad â Rhan 4.

I755Cychwyn

1

Mae'r darpariaethau yn is-adran (2) yn dod i rym ar ddiwedd cyfnod o ddau fis sy'n dechrau ar y diwrnod y cymeradwyir y Mesur hwn gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor.

2

Dyma'r darpariaethau–

a

y rhai sydd wedi eu cynnwys yn y Rhan hon (ac eithrio yn adrannau 53(1) a 54); a

b

unrhyw ddarpariaeth sy'n rhoi pŵer i wneud rheoliadau neu orchymyn, i'r graddau y mae'r ddarpariaeth yn rhoi'r cyfryw bŵer.

3

Daw gweddill darpariaethau'r Mesur hwn i rym yn unol â darpariaeth a wneir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.

Annotations:
Commencement Information
I7

A. 55 mewn grym ar 15.2.2011, gweler a. 55(1)(2)(a)

I856Enw byr

Enw'r Mesur hwn yw Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.