RHAN 2CYDGYSYLLTU A CHYNLLUNIO GOFAL AR GYFER DEFNYDDWYR GWASANAETHAU IECHYD MEDDWL EILAIDD

Diffiniadau

I112Ystyr “claf perthnasol”

1

At ddibenion y Rhan hon, mae unigolyn yn glaf perthnasol os yw darparydd gwasanaeth iechyd meddwl yn gyfrifol am ddarparu unrhyw wasanaeth iechyd meddwl eilaidd i'r unigolyn.

2

Mae unigolyn nad yw'n dod o fewn is-adran (1) hefyd yn glaf perthnasol os–

a

yw'r unigolyn o dan warcheidiaeth awdurdod lleol yng Nghymru; neu

b

mae darparydd gwasanaeth iechyd meddwl wedi penderfynu y byddai gwasanaeth iechyd meddwl eilaidd yn cael ei ddarparu i'r unigolyn pe byddai'r unigolyn yn cydweithredu â'r ddarpariaeth honno.