Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010

24Darparu gwybodaeth am asesiadauLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn rhyddhau oedolyn o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd, rhaid i'r Bwrdd roi gwybodaeth ysgrifenedig i'r oedolyn ynghylch hawl i asesiad o dan y Rhan hon os nad yw unrhyw awdurdod lleol, ar ddyddiad rhyddhau'r oedolyn, yn darparu gwasanaeth iechyd meddwl eilaidd iddo.

(2)Pan fo awdurdod lleol yn rhyddhau oedolyn o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd, rhaid i'r awdurdod roi gwybodaeth ysgrifenedig i'r oedolyn ynghylch hawl i asesiad o dan y Rhan hon os nad oes unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol, ar ddyddiad yr asesiad, yn darparu gwasanaeth iechyd meddwl eilaidd ar gyfer yr oedolyn.

(3)Pan fo'r cyfnod rhyddhau perthnasol yn cychwyn pan fo unigolyn yn blentyn ac yn dod i ben pan fo'r unigolyn hwnnw'n dod yn oedolyn, mae'r Bwrdd neu'r awdurdod o dan yr un ddyletswydd i roi gwybodaeth i'r unigolyn hwnnw ynghylch ei hawl i asesiad ag y mae i roi'r cyfryw wybodaeth i oedolyn o dan is-adrannau (1) a (2).

(4)At ddibenion yr adran hon, mae Bwrdd neu awdurdod yn rhyddhau unigolyn o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd pan fydd yn gweithredu penderfyniad nad oes angen i'r Bwrdd neu'r awdurdod ddarparu mwyach unrhyw wasanaeth o'r fath ar gyfer yr unigolyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 24 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 55(3)

I2A. 24 mewn grym ar 6.6.2012 gan O.S. 2012/1397, ergl. 2(m)