xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3LL+CASESIADAU AR DDEFNYDDWYR BLAENOROL O WASANAETHAU IECHYD MEDDWL EILAIDD

Y broses asesuLL+C

27Camau yn dilyn asesiadLL+C

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys os yw asesiad o dan adran 25(a) neu (b) wedi dynodi gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd neu wasanaethau gofal cymunedol (nad ydynt yn wasanaethau iechyd meddwl eilaidd) a allai helpu i wella iechyd meddwl oedolyn neu atal dirywiad ynddo.

(2)Os un o'r partneriaid iechyd meddwl lleol fyddai'r awdurdod cyfrifol mewn perthynas ag unrhyw wasanaeth o'r fath, rhaid i'r partner hwnnw benderfynu p'un a oes galw am ddarparu'r gwasanaeth hwnnw ai peidio.

(3)Yn yr adran hon ystyr “awdurdod cyfrifol” yw'r awdurdod a fyddai'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau pe bai penderfyniad yn cael ei wneud i'w darparu.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 27 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 55(3)

I2A. 27 mewn grym ar 6.6.2012 gan O.S. 2012/1397, ergl. 2(p)