RHAN 3ASESIADAU AR DDEFNYDDWYR BLAENOROL O WASANAETHAU IECHYD MEDDWL EILAIDD

Y broses asesu

I1I228Atgyfeiriadau sy'n ymwneud â gwasanaethau tai neu wasanaethau llesiant

1

Onid yw is-adran (2) yn gymwys, pan fo asesiad iechyd meddwl eilaidd o dan adran 25(c) wedi dynodi gwasanaeth tai neu wasanaeth llesiant a allai helpu i wella iechyd meddwl oedolyn neu atal dirywiad ynddo, rhaid i'r partner ofyn i'r darparydd gwasanaeth cyfrifol ystyried a fydd yn darparu'r gwasanaeth i'r oedolyn neu, os nad yw hynny'n briodol, a fydd yn gwahodd yr oedolyn i wneud cais am y gwasanaeth.

2

Os y partner iechyd meddwl awdurdod lleol fyddai'r darparydd gwasanaeth cyfrifol mewn perthynas â'r gwasanaeth tai hwnnw neu'r gwasanaeth llesiant hwnnw, rhaid i'r awdurdod benderfynu a oes galw am ddarparu'r gwasanaeth neu, os nad yw hynny'n briodol, benderfynu a fydd yn gwahodd yr oedolyn i wneud cais am y gwasanaeth.

3

Yn is-adrannau (1) a (2), ystyr “darparydd gwasanaeth cyfrifol” yw person sy'n ymgymryd â gweithgareddau yng Nghymru a fyddai'n darparu'r gwasanaeth pe bai penderfyniad yn cael ei wneud i'w ddarparu.