RHAN 1GWASANAETHAU CYMORTH IECHYD MEDDWL SYLFAENOL LLEOL
Gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol
I1I23Dyletswydd i ddarparu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol
1
Onid yw adran 4(1)(a) yn gymwys, rhaid i'r partneriaid iechyd meddwl lleol ar gyfer ardal awdurdod lleol ddarparu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol yn unol â'r canlynol–
a
cynllun ar gyfer eu hardal a gytunwyd o dan adran 2; neu
b
cynllun ar gyfer eu hardal a benderfynwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 4.
2
Os gwnaed newidiadau i gynllun o dan adran 2(6) neu 4(2) rhaid i'r gwasanaethau gael eu darparu yn unol â'r cynllun y gwnaed newidiadau iddo.