Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010

3Dyletswydd i ddarparu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleolLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Onid yw adran 4(1)(a) yn gymwys, rhaid i'r partneriaid iechyd meddwl lleol ar gyfer ardal awdurdod lleol ddarparu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol yn unol â'r canlynol–

(a)cynllun ar gyfer eu hardal a gytunwyd o dan adran 2; neu

(b)cynllun ar gyfer eu hardal a benderfynwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 4.

(2)Os gwnaed newidiadau i gynllun o dan adran 2(6) neu 4(2) rhaid i'r gwasanaethau gael eu darparu yn unol â'r cynllun y gwnaed newidiadau iddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 3 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 55(3)

I2A. 3 mewn grym ar 1.10.2012 gan O.S. 2012/2411, ergl. 2(a)