Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010

30Cymhwysiad y Rhan hon i bersonau o dan warcheidiaeth awdurdod lleolLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae'r adran hon yn gymwys i unigolyn–

(a)sydd wedi peidio â bod o dan warcheidiaeth awdurdod lleol, a

(b)wrth beidio â bod felly, na ddarparwyd iddo wasanaeth iechyd meddwl eilaidd.

(2)At ddibenion y Rhan hon, mae'r unigolyn i'w drin fel un a gafodd ei ryddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd ar y dyddiad pan beidiodd yr unigolyn â bod o dan warcheidiaeth yr awdurdod lleol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 30 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 55(3)

I2A. 30 mewn grym ar 6.6.2012 gan O.S. 2012/1397, ergl. 2(s)