RHAN 1GWASANAETHAU CYMORTH IECHYD MEDDWL SYLFAENOL LLEOL

Gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol

I1I24Methiannau i gytuno ar gynlluniau

1

Os na fydd y partneriaid iechyd meddwl lleol ar gyfer ardal yn gallu cytuno ar gynllun o dan adran 2–

a

tra nad oes cytundeb, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol benderfynu pa driniaeth iechyd meddwl sylfaenol leol sydd i fod ar gael yn ardal yr awdurdod lleol o dan sylw a bod yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol ar gyfer yr ardal honno;

b

rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu Gweinidogion Cymru na ellir dod i gytundeb;

c

caiff Gweinidogion Cymru benderfynu ar gynllun ac, os ydynt yn gwneud hynny, rhaid iddynt ei gofnodi'n ysgrifenedig.

2

Os bydd un partner yn dymuno gwneud newidiadau i gynllun, ond nad yw'r llall yn dymuno hynny, caiff Gweinidogion Cymru, os gwneir cais iddynt gan y naill bartner neu'r llall, wneud newidiadau i'r cynllun i'r graddau y gwêl Gweinidogion Cymru'n dda eu gwneud.

3

Os bydd Gweinidogion Cymru'n gwneud newidiadau i gynllun o dan is-adran (2), rhaid iddynt gofnodi'r newidiadau'n ysgrifenedig.