RHAN 5CYFFREDINOL
I1I246Rhan 3: y pŵer i sicrhau darpariaeth ranbarthol
1
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ar gyfer y canlynol ac mewn cysylltiad â hwy–
a
datgymhwyso Rhan 3 (cyhyd ag y bo'r rheoliadau mewn grym) mewn perthynas â dwy neu ragor o ardaloedd awdurdodau lleol; a
b
yn lle cymhwyso'r Rhan honno ac, i'r graddau y bo hynny'n angenrheidiol y Rhan hon a Rhan 6, mewn perthynas ag ardaloedd cyfun yr awdurdodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (a) (cyfeirir at yr ardal gyfun honno yn yr adran hon fel “rhanbarth”).
2
Rhaid i'r ddarpariaeth a wneir gan reoliadau o dan is-adran (1) gynnwys darpariaeth yn pennu o leiaf un Bwrdd Iechyd Lleol ac un awdurdod lleol yn bartneriaid iechyd meddwl ar gyfer y rhanbarth (ac nid oes ots os nad yw unrhyw ran o'r ardal y cyfansoddwyd y cyfryw Fwrdd neu awdurdod ar ei chyfer yn dod o fewn y rhanbarth).
3
Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud drwy reoliadau o dan is-adran (1) yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i hynny) darpariaeth –
a
sy'n pennu mwy nag un Bwrdd neu awdurdod o'r fath ymhlith y partneriaid iechyd meddwl ar gyfer y rhanbarth;
b
sy'n gwneud yr addasiadau hynny i Ran 1 yr ymddengys i Weinidogion Cymru eu bod yn angenrheidiol neu'n hwylus.