Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010

53Diwygiadau canlyniadol etcLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae gan Atodlen 1 effaith i wneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol mewn cysylltiad â Rhan 4.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn wneud y darpariaethau hynny sy'n briodol ym marn Gweinidogion Cymru at ddibenion cyffredinol y Mesur hwn, neu at unrhyw ddibenion neilltuol yn y Mesur hwn, neu o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth a wneir gan y Mesur hwn neu gan reoliadau o dan adrannau 45 a 46 neu er mwyn rhoi llawn effaith i'r darpariaethau hynny.

(3)Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud mewn gorchymyn o dan is-adran (2) yn cynnwys darpariaeth i ddiwygio, diddymu, dirymu neu addasu cymhwyso unrhyw ddarpariaeth mewn–

(a)unrhyw Deddf Seneddol neu unrhyw un o Ddeddfau neu Fesurau Cynulliad Cenedlaethol Cymru (gan gynnwys y Mesur hwn); a

(b)is-ddeddfwriaeth.

(4)Yn yr adran hon mae i'r term “is-ddeddfwriaeth” yr ystyr sydd i “subordinate legislation” yn Neddf Dehongli 1978.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 53(2)-(4) mewn grym ar 15.2.2011, gweler a. 55(1)(2)(a)

I2A. 53(1) mewn grym ar 3.1.2012 at ddibenion penodedig gan O.S. 2011/3046, ergl. 2(i) (ynghyd ag ergl. 5)

I3A. 53(1) mewn grym ar 2.4.2012 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2011/3046, ergl. 3(h) (ynghyd ag ergl. 5)