(1)Mae asesiad iechyd meddwl sylfaenol yn ddadansoddiad o iechyd meddwl unigolyn sy'n dynodi–
(a)y driniaeth iechyd meddwl sylfaenol leol (os oes un) a allai wella iechyd meddwl yr unigolyn neu atal dirywiad ynddo (rhaid darparu unrhyw driniaeth a ddynodir felly: gweler adrannau 3 a 5); a
(b)y gwasanaethau eraill (os oes rhai) a allai wella iechyd meddwl yr unigolyn neu atal dirywiad ynddo.
(2)Rhaid i'r partneriaid iechyd meddwl lleol sicrhau bod yr asesiad yn cael ei gynnal gan unigolyn sy'n gymwys i gynnal asesiadau iechyd meddwl sylfaenol o dan reoliadau a wneir o dan adran 47.
(3)Mae'r cyfeiriad at wasanaethau eraill yn is-adran (1)(b) yn gyfeiriad at–
(a)gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd;
(b)gwasanaethau o fath a ddarperir fel arfer gan ddarparwyr gofal sylfaenol;
(c)gwasanaethau gofal cymunedol (nad ydynt yn wasanaethau iechyd meddwl eilaidd);
(d)gwasanaethau a ddarperir o dan Ran III o Ddeddf Plant 1989 (nad ydynt yn wasanaethau iechyd meddwl eilaidd);
(e)gwasanaethau tai neu wasanaethau llesiant; ac
(f)addysg neu hyfforddiant a all fod o fudd i iechyd meddwl unigolyn.