xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Yn y Mesur hwn–
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
ystyr “gwastraff” (“waste”) yw unrhyw beth–
sy'n wastraff at ddibenion y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff, a
nas eithriwyd o gwmpas y Gyfarwyddeb honno gan Erthygl 2 o'r Gyfarwyddeb honno;
ystyr “pennu” (“specified”) yw pennu mewn rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru, ac ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu mewn rheoliadau o'r fath;
ystyr “swyddogaeth” (“function”) yw pŵer neu ddyletswydd.
(2)At ddibenion y diffiniad o “gwastraff” yn is-adran (1), ystyr “y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff” yw Cyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor dyddiedig 19 Tachwedd 2008 sy'n ymwneud â gwastraff ac sy'n diddymu Cyfarwyddebau penodol [F1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EU) 2017/997] .
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 17(2) wedi eu mewnosod (22.3.2019) gan Rheoliadau Gwastraff (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/414), rhlau. 1(2)(a), 2(3)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 17 mewn grym ar 15.2.2011, gweler a. 21(2)
Mae'r Atodlen yn cynnwys mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol.
Gwybodaeth Cychwyn
I2A. 18 mewn grym ar 15.2.2011, gweler a. 21(2)
(1)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn arferadwy drwy offeryn statudol.
(2)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn cynnwys pŵer–
(a)i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol neu ddosbarthiadau gwahanol ar achos, ardaloedd gwahanol, personau gwahanol neu ddisgrifiadau gwahanol o berson neu ddibenion gwahanol;
(b)i beri i ddarpariaeth wahanol fod yn gymwys ar adegau gwahanol;
(c)i wneud darpariaeth yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achosion penodol;
(d)i wneud darpariaethau cysylltiedig, atodol, canlyniadol, dros dro, trosiannol neu ddarpariaethau arbed fel y gwêl Gweinidogion Cymru yn dda.
F2(3). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F2(4). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F2A. 19(3)(4) wedi ei hepgor (11.9.2019) yn rhinwedd Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (anaw 4), a. 44(1)(e), Atod. 2 para. 3(2)
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 19 mewn grym ar 15.2.2011, gweler a. 21(2)
(1)Mae unrhyw offeryn statudol sy'n cynnwys gorchymyn neu reoliadau a wneir o dan y Mesur hwn yn ddarostyngedig i'w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
(2)Nid yw is-adran (1) yn gymwys–
(a)i orchymyn o dan adran 21(1);
(b)i orchmynion a rheoliadau y mae is-adran (3) yn gymwys iddynt.
(3)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy'n cynnwys gorchymyn o dan adran 3(4) neu reoliadau o dan adran 4, 5(1)(g), 6, 9, neu 14 (p'un ai ar ei ben ei hun neu ar eu pennau eu hunain neu ynghyd â darpariaethau eraill) oni fydd drafft o'r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a'i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.
F3(4). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F3(5). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F3A. 20(4)(5) wedi ei hepgor (11.9.2019) yn rhinwedd Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (anaw 4), a. 44(1)(e), Atod. 2 para. 3(3)
Gwybodaeth Cychwyn
I4A. 20 mewn grym ar 15.2.2011, gweler a. 21(2)
(1)Mae adran 3 yn dod i rym yn unol â darpariaeth a wneir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.
(2)Mae gweddill y darpariaethau sydd yn y Mesur hwn yn dod i rym ar ddiwedd cyfnod o ddeufis sy'n dechrau ar y diwrnod y cymeradwyir y Mesur hwn gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor.
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 21 mewn grym ar 15.2.2011, gweler a. 21(2)
Enw'r Mesur hwn yw Mesur Gwastraff (Cymru) 2010.
Gwybodaeth Cychwyn
I6A. 22 mewn grym ar 15.2.2011, gweler a. 21(2)