Cyffredinol

17Dehongli

1

Yn y Mesur hwn–

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;

  • ystyr “gwastraff” (“waste”) yw unrhyw beth–

    1. a

      sy'n wastraff at ddibenion y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff, a

    2. b

      nas eithriwyd o gwmpas y Gyfarwyddeb honno gan Erthygl 2 o'r Gyfarwyddeb honno;

  • ystyr “pennu” (“specified”) yw pennu mewn rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru, ac ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu mewn rheoliadau o'r fath;

  • ystyr “swyddogaeth” (“function”) yw pŵer neu ddyletswydd.

2

At ddibenion y diffiniad o “gwastraff” yn is-adran (1), ystyr “y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff” yw Cyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor dyddiedig 19 Tachwedd 2008 sy'n ymwneud â gwastraff ac sy'n diddymu Cyfarwyddebau penodol.

18Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol

Mae'r Atodlen yn cynnwys mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol.

19Gorchmynion a rheoliadau

1

Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn arferadwy drwy offeryn statudol.

2

Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn cynnwys pŵer–

a

i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol neu ddosbarthiadau gwahanol ar achos, ardaloedd gwahanol, personau gwahanol neu ddisgrifiadau gwahanol o berson neu ddibenion gwahanol;

b

i beri i ddarpariaeth wahanol fod yn gymwys ar adegau gwahanol;

c

i wneud darpariaeth yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achosion penodol;

d

i wneud darpariaethau cysylltiedig, atodol, canlyniadol, dros dro, trosiannol neu ddarpariaethau arbed fel y gwêl Gweinidogion Cymru yn dda.

3

Caniateir i unrhyw ddarpariaeth y caniateir ei gwneud drwy orchymyn o dan y Mesur hwn gael ei gwneud drwy reoliadau.

4

Caniateir i unrhyw ddarpariaeth y caniateir ei gwneud drwy reoliadau o dan y Mesur hwn gael ei gwneud drwy orchymyn.

20Gorchmynion a rheoliadau: gweithdrefnau

1

Mae unrhyw offeryn statudol sy'n cynnwys gorchymyn neu reoliadau a wneir o dan y Mesur hwn yn ddarostyngedig i'w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2

Nid yw is-adran (1) yn gymwys–

a

i orchymyn o dan adran 21(1);

b

i orchmynion a rheoliadau y mae is-adran (3) yn gymwys iddynt.

3

Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy'n cynnwys gorchymyn o dan adran 3(4) neu reoliadau o dan adran 4, 5(1)(g), 6, 9, neu 14 (p'un ai ar ei ben ei hun neu ar eu pennau eu hunain neu ynghyd â darpariaethau eraill) oni fydd drafft o'r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a'i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.

4

Pan fo rheoliadau yn gwneud darpariaeth y caniateir ei gwneud drwy orchymyn, bydd unrhyw weithdrefn a fyddai'n gymwys i'r gorchymyn o dan yr adran hon yn gymwys i'r rheoliadau.

5

Pan fo gorchymyn yn gwneud darpariaeth y caniateir ei gwneud drwy reoliadau, bydd unrhyw weithdrefn a fyddai'n gymwys i'r rheoliadau o dan yr adran hon yn gymwys i'r gorchymyn.

21Cychwyn

1

Mae adran 3 yn dod i rym yn unol â darpariaeth a wneir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.

2

Mae gweddill y darpariaethau sydd yn y Mesur hwn yn dod i rym ar ddiwedd cyfnod o ddeufis sy'n dechrau ar y diwrnod y cymeradwyir y Mesur hwn gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor.

22Enw byr

Enw'r Mesur hwn yw Mesur Gwastraff (Cymru) 2010.