F8Gwaredu ar safle tirlenwi neu drwy losgi

Annotations:

I19Rheoliadau sy'n gwahardd gollwng gwastraff ar safle tirlenwi

1

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ar gyfer gwahardd neu reoleiddio fel arall y weithred o ollwng mathau penodedig o wastraff ar safle tirlenwi yng Nghymru, ac mewn cysylltiad â'i wahardd neu ei reoleiddio.

2

Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) wneud y canlynol (ymhlith pethau eraill)–

a

diwygio rheoliadau a wnaed o dan adran 2 o Ddeddf Atal a Rheoli Llygredd 1999 ac sy'n ymwneud â dull gweithredu safle tirlenwi;

b

darparu ar gyfer tramgwyddau mewn perthynas â methiant i gydymffurfio â darpariaeth a wnaed o dan y rheoliadau;

c

darparu ar gyfer cosbau mewn perthynas â'r tramgwyddau hynny;

d

darparu ar gyfer awdurdodau gorfodi a swyddogaethau'r awdurdodau hynny.

3

Yn is-adran (1), mae i “safle tirlenwi” yr ystyr a roddir i “landfill” yn Erthygl 2(g) o Gyfarwyddeb y Cyngor 1999/31/EC dyddiedig 26 Ebrill 1999 am dirlenwi gwastraff F2, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan F3Gyfarwyddeb (EU) 2018/850F4, a’i darllen fel pe bai—

a

yn Erthygl 2—

i

y canlynol wedi ei roi yn lle pwynt (a)—

a

‘waste’ has the meaning given by Article 3(1) of the Waste Framework Directive, as read with Articles 5 and 6 of that Directive;

ii

y canlynol wedi ei roi yn lle pwynt (c)—

c

‘hazardous waste’ has the meaning given in Article 3(2) of the Waste Framework Directive.

b

yn Erthygl 3(2), “Without prejudice to existing Community legislation,” wedi ei hepgor.

9AF7Rheoliadau sy’n gwahardd llosgi gwastraff

1

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ar gyfer gwahardd neu reoleiddio fel arall y weithred o losgi mathau penodedig o wastraff yng Nghymru, ac mewn cysylltiad â’i wahardd neu ei reoleiddio.

2

Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) wneud y canlynol (ymhlith pethau eraill)—

a

diwygio rheoliadau a wnaed o dan adran 2 o Ddeddf Atal a Rheoli Llygredd 1999 sy’n ymwneud â gweithrediad peiriannau llosgi gwastraff neu beiriannau cydlosgi gwastraff;

b

darparu ar gyfer tramgwyddau mewn perthynas â methiant i gydymffurfio â darpariaeth a wnaed o dan y rheoliadau;

c

darparu ar gyfer cosbau mewn perthynas â’r tramgwyddau hynny;

d

darparu ar gyfer awdurdodau gorfodi a swyddogaethau’r awdurdodau hynny.

3

Yn yr adran hon—

  • mae i “peiriant cydlosgi gwastraff” yr ystyr a roddir i “waste co-incineration plant” yn Erthygl 3(41) o Gyfarwyddeb 2010/75/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor ar allyriadau diwydiannol (atal a rheoli llygredd integredig) (Ail-lunio);

  • mae i “peiriant llosgi gwastraff” yr ystyr a roddir i “waste incineration plant” yn Erthygl 3(40) o’r Gyfarwyddeb honno;

  • ystyr “llosgi” (“incineration”) mewn perthynas â gwastraff, yw—

    1. a

      llosgi gwastraff mewn peiriant llosgi gwastraff neu beiriant cydlosgi gwastraff, a

    2. b

      unrhyw driniaethau thermol eraill i’r gwastraff cyn ei losgi.

I210Sancsiynau sifil mewn cysylltiad â F14thramgwyddau a grëir gan reoliadau o dan adrannau 9 a 9A

1

Mae'r adran hon yn gymwys pan fo'r pŵer i wneud rheoliadau yn adran 9(1) F13neu 9A(1) wedi ei arfer neu'n cael ei arfer yn y fath fodd ag i greu tramgwydd.

2

F12Caniateir arfer y pŵer i wneud, mewn perthynas ag awdurdod gorfodi, ddarpariaeth y gellid ei gwneud drwy orchymyn o dan Ran 3 o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008 (“RESA 2008”) fel pe byddai, at ddibenion Rhan 3 o'r Ddeddf honno–

a

yr awdurdod gorfodi yn rheoleiddiwr, a

b

y tramgwydd yn dramgwydd perthnasol mewn perthynas â'r rheoleiddiwr hwnnw.

F113

Ond nid yw adrannau 39(4) a 42(6) o RESA 2008 yn gymwys i’r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud drwy reoliadau o dan adran 9(1) neu 9A(1) yn rhinwedd is-adran (2).

4

Mae adrannau 63 i 69 o RESA 2008 yn gymwys F10pan fo rheoliadau o dan adran 9(1) neu 9A(1) yn gwneud darpariaeth yn rhinwedd is-adran (2) fel y maent yn gymwys pan wneir darpariaeth o dan Ran 3 o RESA 2008 neu yn rhinwedd y Rhan honno.

5

At ddibenion is-adran (4), mae'r cyfeiriadau at “regulator” yn adrannau 63 i 69 o RESA 2008 i'w darllen fel cyfeiriadau at awdurdod gorfodi.

6

Yn yr adran hon, ystyr “awdurdod gorfodi” yw person sydd â swyddogaeth orfodi mewn perthynas â thramgwydd a grëwyd drwy reoliadau o dan adran 9(1) F9neu 9A(1) (fel y bo’n briodol) .

I311Ymgynghori

1

Cyn gwneud unrhyw reoliadau o dan adran 9 F5neu 9A , rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r canlynol–

a

F1Corff Adnoddau Naturiol Cymru;

b

pob awdurdod lleol;

c

unrhyw bersonau y mae'n ymddangos iddynt eu bod yn cynrychioli buddiannau personau sy'n agored i fod yn ddarostyngedig i ddyletswyddau o dan y rheoliadau ac y mae Gweinidogion Cymru'n barnu eu bod yn briodol;

d

unrhyw bersonau eraill y maent yn barnu eu bod yn briodol.

F62

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .