- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As enacted) - English
- Original (As enacted) - Welsh
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Mesur Gwastraff (Cymru) 2010, Croes Bennawd: Gwaredu ar safle tirlenwi neu drwy losgi.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Diwygiadau Testunol
F1croes bennawd wedi ei amnewid (18.10.2023) gan Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (anaw 3), a. 88(3)(b), Atod. 2 para. 17(2); O.S. 2023/1096, ergl. 2(e)
(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ar gyfer gwahardd neu reoleiddio fel arall y weithred o ollwng mathau penodedig o wastraff ar safle tirlenwi yng Nghymru, ac mewn cysylltiad â'i wahardd neu ei reoleiddio.
(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) wneud y canlynol (ymhlith pethau eraill)–
(a)diwygio rheoliadau a wnaed o dan adran 2 o Ddeddf Atal a Rheoli Llygredd 1999 ac sy'n ymwneud â dull gweithredu safle tirlenwi;
(b)darparu ar gyfer tramgwyddau mewn perthynas â methiant i gydymffurfio â darpariaeth a wnaed o dan y rheoliadau;
(c)darparu ar gyfer cosbau mewn perthynas â'r tramgwyddau hynny;
(d)darparu ar gyfer awdurdodau gorfodi a swyddogaethau'r awdurdodau hynny.
(3)Yn is-adran (1), mae i “safle tirlenwi” yr ystyr a roddir i “landfill” yn Erthygl 2(g) o Gyfarwyddeb y Cyngor 1999/31/EC dyddiedig 26 Ebrill 1999 am dirlenwi gwastraff [F2, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan [F3Gyfarwyddeb (EU) 2018/850]] [F4, a’i darllen fel pe bai—
(a)yn Erthygl 2—
(i)y canlynol wedi ei roi yn lle pwynt (a)—
“(a)‘waste’ has the meaning given by Article 3(1) of the Waste Framework Directive, as read with Articles 5 and 6 of that Directive;”;
(ii)y canlynol wedi ei roi yn lle pwynt (c)—
“(c)‘hazardous waste’ has the meaning given in Article 3(2) of the Waste Framework Directive.”;
(b)yn Erthygl 3(2), “Without prejudice to existing Community legislation,” wedi ei hepgor.]
Diwygiadau Testunol
F2Geiriau yn a. 9(3) wedi eu mewnosod (22.3.2019) gan Rheoliadau Gwastraff (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/414), rhlau. 1(2)(a), 2(2)
F3Geiriau yn a. 9(3) wedi eu hamnewid (19.11.2020) gan Rheoliadau Gwastraff (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2020 (O.S. 2020/1179), rhlau. 1(2), 2(2)
F4A. 9(3)(a)(b) ac geiriau wedi eu mewnosod (31.12.2020) gan Rheoliadau Gwastraff (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/414), rhlau. 1(2)(b), 6(2); (as wedi eu hamnewid gan O.S. 2020/1339, rhlau. 1(3), 2(2)(a)); 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 9 mewn grym ar 15.2.2011, gweler a. 21(2)
(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ar gyfer gwahardd neu reoleiddio fel arall y weithred o losgi mathau penodedig o wastraff yng Nghymru, ac mewn cysylltiad â’i wahardd neu ei reoleiddio.
(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) wneud y canlynol (ymhlith pethau eraill)—
(a)diwygio rheoliadau a wnaed o dan adran 2 o Ddeddf Atal a Rheoli Llygredd 1999 sy’n ymwneud â gweithrediad peiriannau llosgi gwastraff neu beiriannau cydlosgi gwastraff;
(b)darparu ar gyfer tramgwyddau mewn perthynas â methiant i gydymffurfio â darpariaeth a wnaed o dan y rheoliadau;
(c)darparu ar gyfer cosbau mewn perthynas â’r tramgwyddau hynny;
(d)darparu ar gyfer awdurdodau gorfodi a swyddogaethau’r awdurdodau hynny.
(3)Yn yr adran hon—
mae i “peiriant cydlosgi gwastraff” yr ystyr a roddir i “waste co-incineration plant” yn Erthygl 3(41) o Gyfarwyddeb 2010/75/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor ar allyriadau diwydiannol (atal a rheoli llygredd integredig) (Ail-lunio);
mae i “peiriant llosgi gwastraff” yr ystyr a roddir i “waste incineration plant” yn Erthygl 3(40) o’r Gyfarwyddeb honno;
ystyr “llosgi” (“incineration”) mewn perthynas â gwastraff, yw—
llosgi gwastraff mewn peiriant llosgi gwastraff neu beiriant cydlosgi gwastraff, a
unrhyw driniaethau thermol eraill i’r gwastraff cyn ei losgi.]
Diwygiadau Testunol
F5A. 9A wedi ei fewnosod (18.10.2023) gan Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (anaw 3), aau. 67, 88(3)(b); O.S. 2023/1096, ergl. 2(b)
(1)Mae'r adran hon yn gymwys pan fo'r pŵer i wneud rheoliadau yn adran 9(1) [F7neu 9A(1)] wedi ei arfer neu'n cael ei arfer yn y fath fodd ag i greu tramgwydd.
(2)[F8Caniateir arfer y pŵer i] wneud, mewn perthynas ag awdurdod gorfodi, ddarpariaeth y gellid ei gwneud drwy orchymyn o dan Ran 3 o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008 (“RESA 2008”) fel pe byddai, at ddibenion Rhan 3 o'r Ddeddf honno–
(a)yr awdurdod gorfodi yn rheoleiddiwr, a
(b)y tramgwydd yn dramgwydd perthnasol mewn perthynas â'r rheoleiddiwr hwnnw.
[F9(3)Ond nid yw adrannau 39(4) a 42(6) o RESA 2008 yn gymwys i’r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud drwy reoliadau o dan adran 9(1) neu 9A(1) yn rhinwedd is-adran (2).]
(4)Mae adrannau 63 i 69 o RESA 2008 yn gymwys [F10pan fo rheoliadau o dan adran 9(1) neu 9A(1) yn gwneud darpariaeth yn rhinwedd is-adran (2) fel y maent yn gymwys pan wneir darpariaeth] o dan Ran 3 o RESA 2008 neu yn rhinwedd y Rhan honno.
(5)At ddibenion is-adran (4), mae'r cyfeiriadau at “regulator” yn adrannau 63 i 69 o RESA 2008 i'w darllen fel cyfeiriadau at awdurdod gorfodi.
(6)Yn yr adran hon, ystyr “awdurdod gorfodi” yw person sydd â swyddogaeth orfodi mewn perthynas â thramgwydd a grëwyd drwy reoliadau o dan adran 9(1) [F11neu 9A(1) (fel y bo’n briodol)] .
Diwygiadau Testunol
F6Geiriau yn a. 10 teitl wedi eu hamnewid (18.10.2023) gan Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (anaw 3), aau. 68(3), 88(3)(b); O.S. 2023/1096, ergl. 2(c)
F7Geiriau yn a. 10(1) wedi eu mewnosod (18.10.2023) gan Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (anaw 3), aau. 68(4), 88(3)(b); O.S. 2023/1096, ergl. 2(c)
F8Geiriau yn a. 10(2) wedi eu hamnewid (18.10.2023) gan Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (anaw 3), aau. 68(5), 88(3)(b); O.S. 2023/1096, ergl. 2(c)
F9A. 10(3) wedi ei amnewid (18.10.2023) gan Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (anaw 3), aau. 68(6), 88(3)(b); O.S. 2023/1096, ergl. 2(c)
F10Geiriau yn a. 10(4) wedi eu hamnewid (18.10.2023) gan Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (anaw 3), aau. 68(7), 88(3)(b); O.S. 2023/1096, ergl. 2(c)
F11Geiriau yn a. 10(6) wedi eu mewnosod (18.10.2023) gan Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (anaw 3), aau. 68(8), 88(3)(b); O.S. 2023/1096, ergl. 2(c)
Gwybodaeth Cychwyn
I2A. 10 mewn grym ar 15.2.2011, gweler a. 21(2)
(1)Cyn gwneud unrhyw reoliadau o dan adran 9 [F12neu 9A] , rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r canlynol–
(a)[F13Corff Adnoddau Naturiol Cymru];
(b)pob awdurdod lleol;
(c)unrhyw bersonau y mae'n ymddangos iddynt eu bod yn cynrychioli buddiannau personau sy'n agored i fod yn ddarostyngedig i ddyletswyddau o dan y rheoliadau ac y mae Gweinidogion Cymru'n barnu eu bod yn briodol;
(d)unrhyw bersonau eraill y maent yn barnu eu bod yn briodol.
F14(2). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F12Geiriau yn a. 11(1) wedi eu mewnosod (18.10.2023) gan Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (anaw 3), a. 88(3)(b), Atod. 2 para. 17(3)(a); O.S. 2023/1096, ergl. 2(e)
F13Geiriau yn a. 11(1)(a) wedi eu hamnewid (1.4.2013) gan Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013 (O.S. 2013/755), ergl. 1(2), Atod. 3 para. 2 (ynghyd ag Atod. 7)
F14A. 11(2) wedi ei hepgor (18.10.2023) yn rhinwedd Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (anaw 3), a. 88(3)(b), Atod. 2 para. 17(3)(b); O.S. 2023/1096, ergl. 2(e)
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 11 mewn grym ar 15.2.2011, gweler a. 21(2)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Text created by the Welsh Assembly Government department responsible for the subject matter of the Measure to explain what the Measure sets out to achieve and to make the Measure accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Measures of the National Assembly for Wales.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: