Nodiadau Esboniadol i Mesur Gwastraff (Cymru) 2010 Nodiadau Esboniadol

Adran 12 – Cynlluniau Rheoli Gwastraff Safle

59.Mae adrannau 12 i 16 o'r Mesur yn ailddatgan, gydag addasiadau, adran 54 o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (p. 16). Mae'r addasiadau’n ymwneud â gweinyddu a gorfodi’r drefn: mae adran 12 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau am gynlluniau codi ffioedd a thaliadau, mae adran 14 yn galluogi i sancsiynau sifil gael eu cymhwyso i dramgwyddau ac mae adran 16 yn darparu ar gyfer ymgynghori.

60.Diben ac effaith adran 12(1) yw caniatáu i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth, drwy reoliadau, i'w gwneud yn ofynnol i bersonau penodedig wneud cynlluniau sy'n nodi sut y byddant yn rheoli ac yn gwaredu gwastraff a grëir wrth wneud gweithiau penodedig sy'n cynnwys adeiladu a dymchwel (is-adran (1)(a)). Caiff y rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i'r rhai y mae gofyn iddynt wneud cynlluniau gydymffurfio â hwy (is-adran (1)(b)).

61.Mae is-adran (2) yn gosod rhestr nad yw'n hollgynhwysfawr o'r ddarpariaeth y gellid ei gwneud drwy reoliadau o dan is-adran (1). Mae'r rhain yn cynnwys o dan ba amgylchiadau y mae'n rhaid paratoi'r cynlluniau (is-adran (2) (a)); cynnwys cynlluniau (is-adran (2)(b)); darpariaethau am awdurdodau gorfodi a'u swyddogaethau (is-adran (2)(c)) ac am gadw cynlluniau a'u dangos i awdurdodau gorfodi (is-adran (2)(d)). Caiff y rheoliadau ei gwneud yn ofynnol hefyd i Weinidogion Cymru, neu awdurdod gorfodi, sefydlu cynllun codi ffioedd a thaliadau i alluogi costau rhesymol a dynnir gan awdurdod gorfodi wrth gyflawni'r swyddogaethau a roddir iddo gan y rheoliadau i gael eu hadennill (is-adran (2)(e)).

62.Caniateir i'r gweithiau yr effeithir arnynt gan y rheoliadau gael eu disgrifio, yn rhinwedd is-adran (3), drwy gyfeirio at gost neu gost debygol y gweithiau hynny neu drwy gyfeirio at feini prawf eraill.

63.Darpariaeth arbed yw is-adran (4). Bydd yn sicrhau, os bydd Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliadau am gynlluniau rheoli gwastraff safle o dan adran 54 o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 cyn i'r Mesur ddod i rym, y bydd effaith i'r rheoliadau hynny fel petaent wedi eu gwneud o dan y ddarpariaeth yn y Mesur hwn.

Back to top