Sylwebaeth Ar Yr Adrannau

Adran 19 – Gorchmynion a rheoliadau

74.Mae'r adran hon yn cynnwys darpariaethau cyffredinol am reoliadau a gorchmynion a wneir o dan y Mesur hwn.

75.Mae is-adran (1) yn darparu, pan fo pŵer wedi ei roi i Weinidogion Cymru gan y Mesur i wneud gorchmynion neu reoliadau, eu bod i'w gwneud drwy offerynnau statudol. Mae is-adran (2) yn darparu bod unrhyw bŵer i wneud rheoliadau neu orchmynion, a roddir i Weinidogion Cymru o dan y Mesur hwn, yn cynnwys pŵer i wneud darpariaethau gwahanol ar gyfer achosion gwahanol neu ddosbarthiadau gwahanol ar achosion, personau gwahanol neu ddisgrifiadau gwahanol o berson, a dibenion gwahanol. Hefyd, mae'n galluogi gorchmynion neu reoliadau i beri i ddarpariaethau gwahanol fod yn gymwys ar adegau gwahanol ac i wneud darpariaethau sydd yn gymwys yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achosion penodol. Mae is-adran (2) yn galluogi Gweinidogion Cymru hefyd i wneud darpariaethau cysylltiedig, atodol, canlyniadol, dros dro, trosiannol neu ddarpariaethau arbed fel y gwêl Gweinidogion Cymru yn dda.

76.O dan is-adran (3), caniateir i ddarpariaeth y caniateir ei gwneud drwy orchymyn o dan y Mesur hwn gael ei gwneud drwy reoliadau. O dan is-adran (4), caniateir i ddarpariaeth y caniateir ei gwneud drwy reoliadau o dan y Mesur hwn gael ei gwneud drwy orchymyn. Mae hyn yn galluogi i amrywiol ddarpariaethau o dan y Mesur gael eu cyfuno mewn un offeryn statudol unigol, yn hytrach na bod mewn dau offeryn ar wahân.