Cynlluniau rheoli gwastraff safle
I112Cynlluniau rheoli gwastraff safle
1
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i bersonau o ddisgrifiad penodedig–
a
paratoi cynlluniau ar gyfer rheoli a gwaredu gwastraff a gëir wrth lunio disgrifiadau penodedig o weithiau yng Nghymru sy'n cynnwys adeiladu neu ddymchwel;
b
cydymffurfio â'r cynlluniau hynny.
2
Caiff rheoliadau gynnwys darpariaeth hefyd ynghylch–
a
yr amgylchiadau y mae'n rhaid paratoi cynlluniau odanynt;
b
cynnwys y cynlluniau;
c
awdurdodau gorfodi mewn perthynas â chynlluniau a swyddogaethau'r awdurdodau hynny;
d
cadw cynlluniau a'u dangos i awdurdodau gorfodi;
e
y dull o wneud cynlluniau gan Weinidogion Cymru neu awdurdod gorfodi sy'n gosod gofynion ar bersonau o ddisgrifiad penodedig i dalu ffioedd neu daliadau eraill a godir fel cyfrwng i adennill y costau rhesymol a dynnir gan awdurdod gorfodi wrth gyflawni ei swyddogaethau o dan yr adran hon.
3
Mae disgrifiadau o weithiau y caniateir eu pennu o dan is-adran (1) yn cynnwys (ymhlith pethau eraill) disgrifiad drwy gyfeirio at gost neu gost debygol y gweithiau hynny.
4
Mae unrhyw reoliadau sydd wedi eu gwneud gan Weinidogion Cymru o dan adran 54 o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 ac sydd mewn grym yn union cyn i'r Rhan hon ddod i rym yn cael effaith fel petaent wedi eu gwneud o dan yr adran hon ac adran 13.
5
Yn yr adran hon, nid yw “Cymru” yn cynnwys unrhyw ran o'r môr sy'n gyfagos i Gymru.