Cynlluniau rheoli gwastraff safle

I116Ymgynghori

1

Cyn gwneud unrhyw reoliadau o dan adran 12, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r canlynol–

a

Asiantaeth yr Amgylchedd;

b

pob awdurdod lleol;

c

unrhyw bersonau y mae'n ymddangos iddynt eu bod yn cynrychioli buddiannau personau sy'n agored i fod yn ddarostyngedig i ddyletswyddau o dan y rheoliadau ac y mae Gweinidogion Cymru'n barnu eu bod yn briodol;

d

unrhyw bersonau eraill y maent yn barnu eu bod yn briodol.

2

At ddibenion is-adran (1), mae ymgynghoriad sydd wedi ei wneud cyn pasio'r Mesur hwn yn cael effaith fel pe bai wedi ei wneud ar ôl ei basio.