CyffredinolLL+C

17DehongliLL+C

(1)Yn y Mesur hwn–

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;

  • ystyr “gwastraff” (“waste”) yw unrhyw beth–

    (a)

    sy'n wastraff at ddibenion y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff, a

    (b)

    nas eithriwyd o gwmpas y Gyfarwyddeb honno gan Erthygl 2 o'r Gyfarwyddeb honno;

  • ystyr “pennu” (“specified”) yw pennu mewn rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru, ac ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu mewn rheoliadau o'r fath;

  • ystyr “swyddogaeth” (“function”) yw pŵer neu ddyletswydd.

(2)At ddibenion y diffiniad o “gwastraff” yn is-adran (1), ystyr “y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff” yw Cyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor dyddiedig 19 Tachwedd 2008 sy'n ymwneud â gwastraff ac sy'n diddymu Cyfarwyddebau penodol [F1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan [F2Gyfarwyddeb (EU) 2018/851]] [F3a chan ei ddarllen yn unol ag is-adrannau (3) i (8)].

[F4(3)Mae cyfeiriad at un neu fwy o Aelod-wladwriaethau mewn darpariaeth sy’n gosod rhwymedigaeth ar Aelod-wladwriaeth neu Aelod-wladwriaethau neu sy’n rhoi disgresiwn i Aelod-wladwriaeth neu Aelod-wladwriaethau i’w ddarllen fel cyfeiriad at Weinidogion Cymru, Corff Adnoddau Naturiol Cymru neu awdurdod lleol a oedd, yn union cyn y diwrnod ymadael, yn gyfrifol am gydymffurfiaeth y Deyrnas Unedig â’r rhwymedigaeth honno neu’n cael arfer y disgresiwn hwnnw o ran Cymru.

(4)Mae Erthygl 2 i’w darllen fe pe bai—

(a)ym mharagraff 2—

(i)yn y geiriau o flaen pwynt (a), “ [F5assimilated] law” wedi ei roi yn lle “other Community legislation”;

(ii)ym mhwyntiau (b) a (c), “Regulation (EC) No 1069/2009” wedi ei roi yn lle “Regulation (EC) No 1774/2002”;

(iii)ym mhwynt (d), “the Mining Waste Directive (gweler adran 17A)” wedi ei roi yn lle’r geiriau o “Directive 2006/21/EC” hyd at y diwedd;

(b)ym mharagraff 3, y geiriau o “Without prejudice” hyd at “Community legislation,” wedi eu hepgor;

(c)paragraff 4 wedi ei hepgor.

(5)Mae Erthygl 5 i’w darllen fel pe bai—

(a)ym mharagraff 1, “A” wedi ei roi yn lle “Member States shall take appropriate measures to ensure that a”;

(b)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff 1—

1A.Any decision as to whether a substance or object is a by-product, must be made—

(a)in accordance with any regulations setting out detailed criteria on the application of the conditions in paragraph 1 to specific substances or objects; and

(b)having regard to any guidance published by the Welsh Ministers or the Natural Resources Body for Wales for the purposes of this Article.;

(c)paragraffau 2 a 3 wedi eu hepgor.

(6)Mae Erthygl 6 i’w darllen fel pe bai—

(a)ym mharagraff 1 “Waste” wedi ei roi yn lle “Member States shall take appropriate measures to ensure that waste”;

(b)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff 1—

1A.Any decision as to whether a substance or object has ceased to be waste must be made—

(a)in accordance with any regulations or [F6assimilated direct] legislation (within the meaning given to that expression in the European Union (Withdrawal) Act 2018) setting out detailed criteria on the application of the conditions in paragraph 1 to specific types of waste; and

(b)having regard to any guidance published by the Welsh Ministers or the Natural Resources Body for Wales for the purposes of this Article.;

(c)ym mharagraff 2—

(i)yr is-baragraff cyntaf wedi ei hepgor;

(ii)yn yr ail is-baragraff, “Any detailed criteria set out in guidance as referred to in paragraph 1A” wedi ei roi yn lle “Those detailed criteria”;

(iii)y trydydd a’r pedwerydd is-baragraffau wedi eu hepgor;

(d)paragraff 3 wedi ei hepgor;

(e)ym mharagraff 4—

(i)yn yr is-baragraff cyntaf—

(aa)yn y frawddeg gyntaf, “Where criteria have not been set out as referred to in paragraph 1A(a) the Natural Resources Body for Wales” wedi ei roi yn lle’r geiriau o’r dechrau hyd at “Member State”;

(bb)yr ail frawddeg wedi ei hepgor;

(ii)yn yr ail is-baragraff—

(aa)“The Natural Resources Body for Wales” wedi ei roi yn lle “Member States”;

(bb)“by competent authorities” wedi ei hepgor.

(7)Mae Erthygl 7 i’w darllen fel pe bai—

(a)y canlynol wedi ei fewnosod o flaen paragraff 1—

A1.In this Article, the “list of waste” means the list contained in the Annex to Commission Decision 2000/532/EC, as that list has effect in Wales.;

(b)ym mharagraff 1—

(i)y frawddeg gyntaf a’r ail frawddeg wedi eu hepgor;

(ii)“The list of waste shall, except as provided in Commission Decision 2000/532/EC, be binding as regards determination of the waste which is to be considered as hazardous waste or as non-hazardous waste.” wedi ei roi yn lle’r drydedd frawddeg;

(c)paragraffau 2, 3, 6 a 7 wedi eu hepgor.

(8)Mae Atodiad 3 i’w ddarllen fel pe bai, yng nghofnod HP 9, yn yr ail frawddeg, “in the Member States” wedi ei hepgor.]