20Gorchmynion a rheoliadau: gweithdrefnauLL+C
(1)Mae unrhyw offeryn statudol sy'n cynnwys gorchymyn neu reoliadau a wneir o dan y Mesur hwn yn ddarostyngedig i'w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
(2)Nid yw is-adran (1) yn gymwys–
(a)i orchymyn o dan adran 21(1);
(b)i orchmynion a rheoliadau y mae is-adran (3) yn gymwys iddynt.
(3)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy'n cynnwys gorchymyn o dan adran 3(4) neu reoliadau o dan adran 4, 5(1)(g), 6, 9, [F19A] neu 14 (p'un ai ar ei ben ei hun neu ar eu pennau eu hunain neu ynghyd â darpariaethau eraill) oni fydd drafft o'r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a'i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.
F2(4). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F2(5). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F1Gair yn a. 20(3) wedi ei fewnosod (18.10.2023) gan Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (anaw 3), aau. 69(5), 88(3)(b); O.S. 2023/1096, ergl. 2(d)
F2A. 20(4)(5) wedi ei hepgor (11.9.2019) yn rhinwedd Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (anaw 4), a. 44(1)(e), Atod. 2 para. 3(3)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 20 mewn grym ar 15.2.2011, gweler a. 21(2)