3Targedau ar gyfer ailgylchu, paratoi i ailddefnyddio a chompostioLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Pennir y targedau ar gyfer ailgylchu, paratoi i ailddefnyddio a chompostio yn is-adrannau (2) a (3).
(2)Rhaid i awdurdod lleol sicrhau yr adenillir, drwy gyfrwng unrhyw un o'r gweithrediadau a bennir yn is-adran (5), o leiaf y maint targed o'i wastraff bwrdeistrefol–
(a)bob blwyddyn ariannol darged, a
(b)bob blwyddyn ariannol ddilynol tan y flwyddyn ariannol darged nesaf.
(3)Yn y tabl canlynol–
(a)mae colofn 1 yn pennu'r maint targed ar gyfer blwyddyn ariannol darged (a'r blynyddoedd ariannol sy'n dod o fewn is-adran (2)(b)), a
(b)mae colofn 2 yn pennu'r flwyddyn ariannol darged y mae'r maint targed yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 1 yn gymwys iddi.
TABL
Maint targed | Blwyddyn ariannol darged |
---|
52% | 2012/13 |
58% | 2015/16 |
64% | 2019/20 |
70% | 2024/25 |
(4)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio'r tabl hwn drwy orchymyn.
(5)Y gweithrediadau y cyfeiriwyd atynt yn is-adran (2) yw–
(a)ailgylchu;
(b)paratoi i ailddefnyddio;
(c)compostio (gan gynnwys unrhyw ffurf arall ar drawsnewid drwy brosesau biolegol).
(6)Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy orchymyn i ganfod a yw gwastraff yn cael ei ailgylchu, ei baratoi i'w ailddefnyddio, neu ei gompostio at ddibenion y targedau o dan yr adran hon.
(7)Mae awdurdod lleol nad yw'n cyrraedd targed ailgylchu, paratoi i ailddefnyddio a chompostio yn agored i gosb sydd i'w thalu i Weinidogion Cymru.
(8)At ddibenion yr adran hon, gwastraff trefol awdurdod lleol o flwyddyn ariannol darged yw maint cyfan pob un o'r canlynol yn ôl pwysau–
(a)yr holl wastraff a gasglwyd yn y flwyddyn honno gan awdurdod lleol o dan adran 45 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990;
(b)yr holl wastraff a ollyngwyd yn y flwyddyn honno mewn mannau a ddarparwyd gan awdurdod lleol o dan is-adrannau (1)(b) a (3) o adran 51 o'r Ddeddf honno;
(c)unrhyw wastraff arall a bennir drwy orchymyn gan Weinidogion Cymru.
(9)Yn yr adran hon, ystyr “blwyddyn ariannol” yw cyfnod o 12 mis sy'n diweddu ar 31 Mawrth.