Targedau gwastraff
I1I23Targedau ar gyfer ailgylchu, paratoi i ailddefnyddio a chompostio
1
Pennir y targedau ar gyfer ailgylchu, paratoi i ailddefnyddio a chompostio yn is-adrannau (2) a (3).
2
Rhaid i awdurdod lleol sicrhau yr adenillir, drwy gyfrwng unrhyw un o'r gweithrediadau a bennir yn is-adran (5), o leiaf y maint targed o'i wastraff bwrdeistrefol–
a
bob blwyddyn ariannol darged, a
b
bob blwyddyn ariannol ddilynol tan y flwyddyn ariannol darged nesaf.
3
Yn y tabl canlynol–
a
mae colofn 1 yn pennu'r maint targed ar gyfer blwyddyn ariannol darged (a'r blynyddoedd ariannol sy'n dod o fewn is-adran (2)(b)), a
b
mae colofn 2 yn pennu'r flwyddyn ariannol darged y mae'r maint targed yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 1 yn gymwys iddi.
Maint targed | Blwyddyn ariannol darged |
---|---|
52% | 2012/13 |
58% | 2015/16 |
64% | 2019/20 |
70% | 2024/25 |
4
Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio'r tabl hwn drwy orchymyn.
5
Y gweithrediadau y cyfeiriwyd atynt yn is-adran (2) yw–
a
ailgylchu;
b
paratoi i ailddefnyddio;
c
compostio (gan gynnwys unrhyw ffurf arall ar drawsnewid drwy brosesau biolegol).
6
Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy orchymyn i ganfod a yw gwastraff yn cael ei ailgylchu, ei baratoi i'w ailddefnyddio, neu ei gompostio at ddibenion y targedau o dan yr adran hon.
7
Mae awdurdod lleol nad yw'n cyrraedd targed ailgylchu, paratoi i ailddefnyddio a chompostio yn agored i gosb sydd i'w thalu i Weinidogion Cymru.
8
At ddibenion yr adran hon, gwastraff trefol awdurdod lleol o flwyddyn ariannol darged yw maint cyfan pob un o'r canlynol yn ôl pwysau–
a
yr holl wastraff a gasglwyd yn y flwyddyn honno gan awdurdod lleol o dan adran 45 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990;
b
yr holl wastraff a ollyngwyd yn y flwyddyn honno mewn mannau a ddarparwyd gan awdurdod lleol o dan is-adrannau (1)(b) a (3) o adran 51 o'r Ddeddf honno;
c
unrhyw wastraff arall a bennir drwy orchymyn gan Weinidogion Cymru.
9
Yn yr adran hon, ystyr “blwyddyn ariannol” yw cyfnod o 12 mis sy'n diweddu ar 31 Mawrth.