Targedau gwastraff

I15Monitro ac archwilio cydymffurfedd â thargedau

1

Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau–

a

ynghylch sut y mae cydymffurfedd ag unrhyw darged perthnasol i'w asesu;

b

ynghylch trefniadau ar gyfer monitro ac archwilio cydymffurfedd ag unrhyw darged perthnasol;

c

sy'n rhoi pwerau mynediad a phwerau arolygu mewn cysylltiad â'r monitro a'r archwilio hwnnw ar gyfer personau a awdurdodir gan Weinidogion Cymru;

d

sy'n ei gwneud yn ofynnol i gofnodion gael eu cadw gan awdurdod lleol mewn cysylltiad â thargedau perthnasol;

e

sy'n ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei darparu gan awdurdod lleol i bersonau penodedig ar ffurf benodedig neu mewn dull penodedig mewn cysylltiad â thargedau perthnasol;

f

sy'n ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei chyhoeddi mewn cysylltiad â thargedau perthnasol;

g

sy'n gosod atebolrwydd ar awdurdod lleol i dalu cosb os yw'n methu â chydymffurfio â gofyniad mewn rheoliadau o dan unrhyw un neu unrhyw rai o baragraffau (b) i (f).

2

Yn yr adran hon, “targedau perthnasol” yw–

a

targedau ailgylchu, paratoi i ailddefnyddio a chompostio o dan adran 3;

b

unrhyw dargedau gwastraff o dan adran 4(1)(a).